Mynd i'r cynnwys

Siancod Cig Oen Cymru Nalli Gosht

Cynhwysion 

  • 2 siancen Cig Oen Cymru
  • 125g iogwrt naturiol braster llawn
  • 1 llwy de o bowdr chili
  • 1 llwy de o gwmin
  • ½ llwy de o goriander
  • ½ llwy de o dyrmerig
  • ½ llwy de o halen
  • ½ llwy de o bupur du
  • 2 lwy fwrdd o olew
  • 2 winwnsyn wedi’u sleisio’n fras
  • 2 ffyn sinamon
  • 6 pod cardamom
  • 3 clof
  • darn 4 cm o sinsir ffres, wedi’i gratio
  • 4 ewin garlleg, wedi’u gratio
  • ½ llwy de o naddion tsili sych
  • 2 lwy fwrdd o biwrî tomato
  • 1 llwy fwrdd o flawd
  • 1 llwy de o dyrmerig
  • 450ml o ddŵr

210
Amser coginio
10
Amser paratoi 
2
Yn gweini
  1. Mewn powlen fawr, rhowch yr iogwrt, powdr tsili, cwmin, coriander, tyrmerig a sesnin a chymysgwch yn dda.
  2. Ychwanegwch y siancod a'u troi'n dda gan eu gorchuddio yn y cymysgedd iogwrt, gorchuddiwch a'u rhoi yn yr oergell am o leiaf 3 awr.
  3. Cynheswch y popty i 170°C, 150°C nwy ffan 3
  4. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio. Tynnwch y siancod allan o'r cymysgedd iogwrt, gan adael llawer o'r iogwrt yn y bowlen. Ffriwch eich cig nes ei bod yn frown drosodd a'u rhoi mewn dysgl gaserol.
  5. Yn yr un badell ffrio, ychwanegwch y winwns, ffyn sinamon, podiau cardamon, clofau, garlleg, tsili a sinsir a'u ffrio'n ysgafn am ychydig funudau.
  6. Ychwanegwch y blawd, tyrmerig a phiwrî a'u cymysgu'n dda, yna ychwanegwch y dŵr, dewch ag ef i'r berw.
  7. Ychwanegwch weddill y cymysgedd iogwrt a'u cymysgu'n dda.
  8. Arllwyswch dros y cig oen, rhowch gaead neu ffoil ar y ddysgl a choginiwch yn araf am hyd at 3 awr nes bod y siancod yn dyner.
  9. Tynnwch y cig allan o'r ddysgl a'u cadw'n gynnes, tynnwch y codennau cardamon a'r ffyn sinamon ac yna defnyddiwch gymysgydd llaw i wneud saws llyfn.
  10. Dychwelwch y coesau i'r badell i sicrhau eu bod yn chwilboeth.
  11. Gweinwch gyda reis pilaf a thaenellwch hadau pomgranad, almonau wedi'u naddu a mintys wedi'u torri.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025