Mynd i'r cynnwys

Siancen Cig Oen Cymru mewn grefi gwin coch

Ingredients

  • 2 siancen Cig Oen Cymru
  • 2 lwy fwrdd o olew
  • Sesnin
  • 1 Nionyn, wedi’i sleisio
  • 3 ewin garlleg, wedi’u gratio
  • 1 moron, wedi’i ddeisio’n fân
  • 2 goes o seleri, wedi’u torri’n fân
  • 300 ml o win coch
  • 250 ml o passata
  • 250 ml o stoc cyw iâr
  • Brigau o deim a rhosmari ffres
  • 2 ddeilen bae
  • 25g o fenyn

I weini:

  • Tatws stwnsh hufennog
  • Brocoli

180
Cooking Time
20
Prep Time
2
Serves
  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180°C neu ffwrn ffan 160°C. (Os ydych chi'n defnyddio'r popty araf, cynheswch ar osodiad isel).
  2. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio ac ychwanegwch y cig. Ffriwch drwyddynt i gyd gan geisio cael lliw braf arnynt.
  3. Taenwch y sesnin drostynt.
  4. Tynnwch y siancod o'r badell ac ychwanegwch y winwnsyn, y foronen, y seleri a'r garlleg.
  5. Ffriwch am ychydig funudau nes eu bod wedi lliwio'n ysgafn.
  6. Ychwanegwch y gwin, y passata, y stoc a'r perlysiau a dod ag ef i'r berw.
  7. Rhowch y siancod mewn dysgl gaserol neu bopty araf a'u gorchuddio â'r cynnwys yn y badell.
  8. Coginiwch am 2 ½ awr – 3 awr nes bod y cig yn dyner neu hyd at 8 awr yn y popty araf.
  9. Pan fyddant yn dyner, tynnwch y cig yn ofalus o'r hylif a'u cadw'n gynnes.
  10. Cymysgwch gynhwysion y saws nes eu bod yn llyfn ac yn braf, ychwanegwch y menyn a'i droi drwyddo. Bydd y menyn yn helpu i roi llewyrch braf i'r saws.
  11. Gweinwch y siancen ar wely o datws stwnsh, brocoli ac arllwyswch y saws cyfoethog drosto.

More like this


© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025