-
Amser paratoi
10 mun
-
Amser coginio
10 mun
-
Ar gyfer
4
Bydd angen
- 400g o stêcs rwmp Cig Eidion Cymru PGI
- 100g o quinoa, wedi’i goginio
- 160g o frocoli
- 2 oren
- 100g o sbigoglys
- 40g o gnau cyll wedi’u gwynnu
- 1 llwy fwrdd o fêl
- 2 llwy fwrdd o olew olewydd
- Halen a phupur i roi blas
Gwybodaeth am faeth
- Ynni: 1596 KJ
- Calorïau: 380 kcals
- Braster: 18.4 g
- Sy’n dirlenwi: 3.5 g
- Haearn: 5.6 mg
- Sinc: 6.6 mg
- Rhowch sudd 1 oren mewn powlen a’i gymysgu â’r mêl, olew olewydd a’r halen a phupur. Defnyddiwch hanner y gymysgedd i farinadu’r stêc, a chadwch yr ail hanner ar gyfer y quinoa.
- Stemiwch y brocoli’n ysgafn a chymysgwch mewn powlen gyda’r quinoa, gweddill y marinâd, a dail sbigoglys. Yn y cyfamser, tostiwch y cnau cyll yn y badell am ychydig o funudau cyn eu torri’n fân.
- Rwbiwch halen a phupur i ddwy ochr y stêc a’i goginio mewn padell ffrio gynnes ac ychydig o olew. Coginiwch at eich dant cyn tynnu o’r badell a’i adael i orffwys am ychydig o funudau wedyn torrwch i ddarnau hir.
- Piliwch a sleisiwch yr oren a’i weini dros y salad. I orffen creu’r salad, ychwanegwch y stêc a’r cnau cyll, a gweini popeth yn gynnes.