Mynd i'r cynnwys

Rag Cig Oen Cymru wedi’i ffrio mewn ffriwr aer gyda chrwst surdoes a phistachio

Ingredients

  • 1 Rag Cig Oen Cymru, esgyrn wedi’u twtio
  • 1 llwy fwrdd o olew
  • Sesnin
  • 50g Menyn
  • 2 sialóts neu 1 winwnsyn bach, wedi’i dorri’n fân
  • 2 ewin garlleg, wedi’u malu
  • 75g Briwsion bara surdoes
  • 50g cnau pistachio, wedi’u torri’n fân
  • 1 llwy fwrdd persli ffres, wedi’i dorri’n fân
  • 1 llwy fwrdd mwstard Dijon

25
Cooking Time
15
Prep Time
2
Serves
  1. Tynnwch y rag o'r oergell 20 munud cyn coginio.
  2. Gwnewch y briwsionyn drwy doddi'r menyn mewn padell, ychwanegwch y sialóts a'r garlleg, ffriwch am 2 funud i feddalu. Ychwanegwch y briwsion bara, y pistachio a'r persli.
  3. Cynheswch y ffrïwr aer i 180 gradd.
  4. Olewch y rag cig oen a thaenellwch sesnin drosto.
  5. Rhowch mewn padell boeth i serio'r cig, gan droi i serio pob arwyneb.
  6. Rhowch y rag ar fwrdd, gorchuddiwch yr wyneb gyda'r mwstard, yna pwyswch y briwsionyn ar y mwstard.
  7. Rhowch y rag yn y ffrïwr aer a choginiwch i'ch hoffter.
  8. Os ydych chi'n hoffi eich cig oen yn ganolig-amrwd, coginiwch am 15-18 munud nes bod y tymheredd mewnol yn 57-63 gradd, 20-25 munud ar gyfer cig oen canolig, tymheredd mewnol 64-68 gradd. (Dilynwch ganllawiau eich ffrïwr aer).
  9. Gadewch iddo orffwys cyn ei gerfio.
  10. Blasus wedi'i weini gyda phiwrî pys mintys

More like this


© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025