- Cynheswch y popty i 220°C / 200°C ffan / Nwy 7.
- Irwch hambwrdd pobi yn ysgafn, neu defnyddiwch bapur pobi.
- Ysgeintiwch flawd dros eich man gweithio a rholiwch y toes i greu siâp cymharol grwn a thenau, cyn ei roi ar yr hambwrdd. Gadewch iddo gymryd ei siâp am rai munudau.
- Rhowch olew ar eich gradell neu eich padell ffrio, ac ewch ati i olosgi tafelli’r corbwmpenni a’r planhigyn wy yn ysgafn ar wres uchel, gan eu coginio am rai munudau’n unig.
- Taenwch y pesto dros y toes. Rhowch dafelli’r corbwmpenni a’r planhigyn wy ar ei ben, gan frwsio’r llysiau ac ymylon y pizza yn ysgafn ag olew.
- Rhowch y pizza yn y popty a’i goginio am 15-20 munud tan y bydd y gwaelod yn gras.
- Tra bydd y pizza yn y popty, coginiwch y stecen gig oen. Rhowch ychydig o olew mewn padell boeth a ffriwch y stecen am 4-5 munud ar bob ochr, cyn ei blasuso a’i rhoi i’r naill ochr.
- Paratowch y dresin trwy gyfuno’r holl gynhwysion a’u rhoi mewn jwg neu bowlen fechan.
- Pan fydd y pizza yn barod, rhowch ychydig o’r caws ffeta wedi’i friwsioni, hadau’r pomagranad, y dail berwr, a’r stecen gig oen wedi’i thorri’n denau ar ei ben.
- Gweinwch y pizza gyda’r dresin lemwn.
Cyngor: er mwyn arbed amser, rydym wedi defnyddio toes pizza parod wedi’i oeri ar gyfer y rysáit hon, ond gallwch chi baratoi eich toes eich hun, neu ychwanegu dŵr at gymysgedd toes a dilyn y cyfarwyddiadau ar y pecyn. Rydym wedi defnyddio darnau o stecen coes cig oen wedi’i choginio ar gyfer ein pizza, ond gallech chi ddefnyddio darnau dros ben o gig oen rhost, os byddai’n well gennych.