
Ingredients
- 300g Cig Oen Cymru PGI dros ben
- 10g moron dros ben, wedi’u deisio
- 200g llysiau dros ben eraill (brocoli, erfin/rwdins, tatws)
- 1 nionyn mawr, wedi’i dorri
- 100g pys wedi’u rhewi
- 250ml grefi parod
- 1 llwy fwrdd jeli cyrens coch
- Sbrigau rhosmari, wedi’u torri’n fân
- 6 dalen crwst filo
- 25 g menyn, wedi’i doddi
- 1 llwy fwrdd olew
30
Cooking Time
15
Prep Time
4
Serves
Pastai hynod o hawdd o fwyd dros ben dydd Sul!
- Cynheswch y popty ymlaen llaw i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6.
- Cynheswch yr olew mewn padell, ac yna ychwanegwch y nionyn a'i ffrio nes ei fod yn feddal. Ychwanegwch y cig oen a'r llysiau, a'u cynhesu nes eu bod yn chwilboeth. Trowch y pys, y grefi, y jeli cyrens coch a'r rhosmari i mewn i'r cymysgedd.
- Trosglwyddwch y cynhwysion i ddysgl bopty.
- Brwsiwch y dalennau filo yn ysgafn gyda'r menyn wedi'i doddi a gwasgwch y crwst yn ysgafn dros y cynhwysion.
- Brwsiwch weddill y menyn dros y cyfan a rhowch y bastai yn y popty am 20 munud, a'i choginio nes y bydd yn frown euraidd.