Mynd i'r cynnwys

Ochr Orau Cig Eidion Cymru wedi’i ffrio mewn ffriwr aer

Cynhwysion 

  • 1.2 kg o Gig Eidion Cymru
  • 2 lwy fwrdd o olew
  • ½ llwy de o halen
  • 1 llwy de o bupur du bras wedi’i falu
  • 1 llwy fwrdd o deim ffres
  • 1 llwy de o rosmari sych
  • 1 llwy de o ronynnau garlleg

60
Amser coginio
10
Amser paratoi 
4
Yn gweini
  1. Tynnwch y darn cig eidion allan o'r oergell 30 munud cyn coginio.
  2. Cymysgwch 1 llwy fwrdd o'r olew, halen, pupur, teim, rhosmari a gronynnau garlleg.
  3. Defnyddiwch yr olew sy'n weddill i orchuddio'r cig eidion gan sicrhau bod pob arwyneb wedi'i orchuddio.
  4. Gorchuddiwch y top gyda'r past perlysiau.
  5. Rhowch y cig eidion yn fasged eich ffrïwr aer.
  6. Cynheswch y ffrïwr aer ymlaen llaw i 200'c.
  7. Coginiwch y cig eidion am 15 munud i grimpio'r wyneb, yna fedrwch leihau'r gwres i 170'C a choginiwch am yr amser sy'n weddill o 15-17 munud fesul 500g.
  8. Os ydych chi'n defnyddio chwiliedydd tymheredd, coginiwch;
  9. Prin 48 – 52'c
  10. Canolig Prin 55-59'c
  11. Canolig 60-66'c
  12. Wedi'i goginio'n dda 67-71'c
  13. Pan fydd wedi'i goginio i'ch dant, tynnwch o'r ffrïwr a'i orchuddio'n llac â ffoil a'i orffwys am o leiaf 15 munud cyn ei gerfio.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025