- Coginio’r nwdls mewn dŵr hallt, berwedig am 5-6 munud
- Crino’r stêcs am 2-3 munud ar bob ochr mewn padell boeth iawn.
- Chwysu’r shibwns, garlleg a sinsir gan ddefnyddio ychydig o olew.
- Pan fo’r stêc wedi coginio, ei gorffwys mewn lle cynnes.
- Draenio’r nwdls ac ychwanegu’r shibwns yn ogystal ag ychydig o’r dŵr coginio.
- Gwywo’r choy sum ym mhadell y stêc, a’u coginio tua 70% fel bod y coesau dal yn galed.
- Gorchuddio’r stêc yn y kecap manis ac ychwanegu ychydig o halen, ei dychwelyd i’r badell am 20 eiliad er mwyn ei haildwymo ac amsugno’r saws.
- Gweini’r stêc ar ben y nwdls, ac ychwanegu’r coriander a’r hadau sesame.
Llygad yr asen o Gig Eidion Cymru gyda nwdls a kecap manis gan Hywel Griffith
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 15 mun
- Ar gyfer 2
Bydd angen
- 2 x 200g stêc llygad yr asen Cig Eidion Cymru PGI, ar dymheredd yr ystafell
- 50g nwdls Udon
- 100g choy sum (neu pak choi)
- 1 shibwnsyn banana mawr, wedi ei dorri
- 30g sinsir, wedi ei dorri fân
- 1 ewin garlleg mawr, wedi ei dorri fân
- 20g coriander
- 50g kecap manis
- Pinsiad o halen ac ychydig o olew
- Llond llaw o hadau sesame