Mynd i'r cynnwys

Cyri keema Cig Oen Cymru

Cynhwysion 

  • 450g briwgig Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fân
  • 2 ewin garlleg, wedi’i dorri’n fân
  • 3cm darn sinsir ffres, wedi’i dorri’n fân
  • 2 lwy fwrdd powdr cyrri mwyn
  • 2 lwy fwrdd purée tomato
  • 400ml stoc cig oen neu lysiau
  • 400g tun tomatos wedi’u torri
  • ½ llwy de siwgr
  • 50g pys wedi’u rhewi
  • Clwstwr o shibwns, wedi’u torri
  • Iogwrt naturiol (dewisol)

25
Amser coginio
10
Amser paratoi 
4
Yn gweini
  1. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio, ychwanegwch y winwnsyn, y garlleg a'r sinsir a'u ffrio'n ysgafn am 5 munud.
  2. Ychwanegwch y briwgig a chynyddwch y gwres, a'i ffrio nes ei fod wedi brownio.
  3. Trowch y powdr cyrri i mewn a choginiwch am 2 funud.
  4. Ychwanegwch y purée tomato, stoc, tomatos tun a siwgr, cymysgwch yn dda a dewch â'r cyfan i’r berw cyn ei fudferwi am 15 munud.
  5. Ychwanegwch y pys a'u coginio am 4 munud arall.
  6. Gweinwch gyda reis neu fara croyw a rhowch iogwrt naturiol a'r shibwns ar ei ben.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025