
Cynhwysion
- 6 x Golwyth Cig Oen Cymru PGI
- Sudd ½ lemwn
- 1 llwy fwrdd o garam masala
- 1 llwy fwrdd o arlleg a sinsir wedi’u torri’n fân
- 1 llwy de’r un o goriander, cwmin, tyrmerig a naddion tsili mâl
- 2 lwy fwrdd o iogwrt Groegaidd
Tatws Bombay
- 2-3 taten
- Ychydig o olew had rêp
- ½ llwy fwrdd yr un o goriander a thyrmerig wedi’u malu
- 1 llwy de o hadau mwstard
- 1 llwy fwrdd o goesynnau coriander wedi’u torri
Bhajis Nionyn
- 2 winwnsyn
- 1 tsili coch
- 1 llwy de’r un o goriander, cwmin, tyrmerig, garam masala a naddion tsili
- 1 llwy fwrdd o flawd plaen
- Dŵr
Dip Iogwrt Mintys
- Llond llaw’r un o ddail mintys ffres a choriander
- 2 tsili gwyrdd
- Sudd ½ lemwn
- 4 llwy fwrdd o iogwrt Groegaidd
Reis Sbeislyd
- 150g o reis basmati
- ½ llwy de’r un o bowdr cwmin, tyrmerig a tsili
40
Amser coginio
60
Amser paratoi
4
Yn gweini
- Cymysgwch gynhwysion y marinâd, gorchuddiwch y golwythion a'u rhoi o'r neilltu am o leiaf 1 awr.
- Piliwch a thorrwch y tatws yn ddarnau, berwch yn ysgafn am 10 munud ac yna ychwanegwch at hambwrdd pobi gyda'r olew a'r sbeisys, pobwch nes eu bod yn grimp - tua 30 munud.
- Golchwch a draeniwch y reis, ychwanegwch at sosban o ddŵr berwedig, ychwanegwch sbeisys a choginiwch am 10 munud. Ar ôl ei goginio, gadewch gyda'r caead ymlaen i stemio.
- Sleisiwch y winwns yn fân a'u hychwanegu at fowlen gyda sbeisys, blawd a dŵr. Cymysgwch yn dda.
- Ffriwch y bhajis mewn olew nes eu bod yn grimp ar y ddau ochr.
- Griliwch eich cig oen ar wres uchel nes ei fod wedi brownio, daliwch ati i droi nes ei fod wedi'i goginio drwyddo.
- Gweinwch y wledd ac addurnwch â had pomgranad, coriander ffres a gwasgiad o lemwn.
