facebook-pixel

Fajitas Cig Oen Cymru

  • Amser paratoi 5 mun
  • Amser coginio 10 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 2 stecen coes Cig Oen Cymru PGI, wedi’u torri’n stribedi
  • 2 llwy fwrdd olew olewydd
  • 1 nionyn coch, wedi’i sleisio’n denau
  • 1 pupur coch, wedi’i sleisio
  • 1 pupur melyn, wedi’i sleisio
  • 1 llwy fwrdd Sesnin Fajita
  • Sudd hanner leim (defnyddiwch yr hanner arall yn y salsa)
  • 8 parseli tortilla bach, wedi’u cynhesu
  • 4 llwy fwrdd hufen sur neu iogwrt naturiol
  • 100gram caws cheddar wedi’i gratio
  • Tomatos wedi’u torri’n fân
  • Coriander wedi’i torri’n fân

Dull

  1. Rhowch 1 llwy fwrdd o olew mewn padell ffrio, ychwanegwch y stribedi cig oen a’u ffrio am ychydig funudau nes eu bod yn frown golau.
  2. Ychwanegwch y nionyn a’r pupurau a’u ffrio dros wres uchel am tua 5 munud nes eu bod wedi’u lliwio’n dda.
  3. Gostyngwch y gwres ac ychwanegu’r sesnin fajita, ewch ati i’w droi’n dda a’i ffrio am 2 funud. Ychwanegwch y sudd leim yn ofalus.
  4. Cynheswch y tortillas yn y popty neu’r microdon;
  5. Rhowch y gymysgedd ar y tortilla, gyda hufen sur, caws, tomatos a choriander.
Share This