Mynd i'r cynnwys

Darnau o Gig Eidion Cymru mewn quinoa crensiog, gyda dipiau

Ingredients

  • 450g o stecen syrlwyn Cig Eidion PGI, wedi’i sleisio’n 1cm
  • 225g o quinoa wedi’i goginio
  • 1 ŵy
  • 1 gwynwy
  • 2 lwy fwrdd o flawd wedi’i sesno
  • 75g o gaws parmesan, wedi’i gratio’n fan
  • Halen a phupur
  • ½ llwy de o rosmari sych
  • ½ llwy de o berlysiau sych
  • Pinsiad o bupur cayenne

20
Cooking Time
25
Prep Time
4
Serves
  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 160°C / 140°C ffan / Nwy 3. I wneud y quinoa'n grimp, taenwch yn gyfartal dros bapur pobi ar hambwrdd pobi, a'i roi yn y popty am oddeutu 20-25 munud. Gadewch iddo oeri.
  2. Codwch dymheredd y popty i 200°C / 180°C ffan / Farc Nwy 6.
  3. Curwch yr ŵy a'r gwynwy a'i gilydd. Mewn powlen arall, cyfunwch y quinoa, yr halen a'r pupur, y perlysiau sych a'r caws parmesan.
  4. Rhowch y darnau cig eidion yn y blawd wedi'i sesno, yna yn y gymysgedd ŵy ac yna gorchuddiwch â'r gymysgedd quinoa. Rhowch nhw ar hambwrdd pobi anlynol, chwistrellwch yn ysgafn ag olew a phobwch am 15-20 munud nes maent yn grensiog.
  5. Gweinwch gyda dipiau. Aioli - mayonnaise gyda garlleg wedi'i wasgu a phupur du. Dip mayonnaise a rhuddygl poeth - 1 llwy fwrdd o ruddygl poeth hufennog, 2 lwy fwrdd o fayonnaise, 2 lwy fwrdd o crème fraîche a phersli wedi'i dorri.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025