
Cynhwysion
- 450g o stêcs coes Cig Oen Cymru, wedi’u torri’n stribedi tenau
- 1 llwy fwrdd o olew
- 1 llwy fwrdd o olew cnau coco
- 1 winwnsyn coch, wedi’i sleisio’n denau
- 3 ewin o arlleg, wedi’u malu
- 1-2 tsilis coch, wedi’u torri’n fân
- darn 4 cm o sinsir ffres, wedi’i sleisio
- 4 shibwn, wedi’u sleisio
- 2 foronen, wedi’u torri’n dafelli tenau
- Bwndel o frocoli coesyn tendr, wedi’i dorri
- 3 llwy fwrdd o bast cyri coch Thai
- 2 llwy de o biwrî tomato
- 1 llwy fwrdd o saws pysgod
- 1 llwy de o siwgr brown
- Tun 400ml o laeth cnau coco
- 300ml o stoc cyw iâr
- Bwndel mawr o sbigoglys bach
- 1 llwy de o flawd corn (dewisol)
20
Amser coginio
20
Amser paratoi
4
Yn gweini
- Cynheswch yr olew mewn padell ffrio, ychwanegwch y stribedi oen a'u ffrio ar wres uchel nes eu bod yn frown.
- Tynnwch y cig o'r badell.
- Ychwanegwch yr olew cnau coco i'r badell a lleihau'r gwres i ffrio'r winwnsyn, y garlleg, y sinsir, y shibwns a'r tsili yn ysgafn. Ffriwch am 3 munud.
- Ychwanegwch y stribedi oen, y past cyri coch, y piwrî, y past pysgod a'r siwgr.
- Cymysgwch yn dda am 1 munud.
- Ychwanegwch y moron, y brocoli, y stoc a'r llaeth cnau coco a'u cymysgu'n dda.
- Coginiwch ar fudferw am 10 munud.
- Ychwanegwch y sbigoglys a'i gymysgu drwyddo.
- Taenellwch goriander drosto a gweinwch gyda reis o'ch dewis.
More like this

Stêc Cig Eidion Cymru arddull Thai gyda dresin ‘Crying Tiger’ gan Frantic Feast
15

Gwledd Indiaidd Cig Oen Cymru gyda thatws Bombay, bhajis nionyn, reis sbeislyd a dip iogwrt mintys gan Frantic Feast
40

Siancod Cig Oen Cymru wedi’u brwysio gyda tsili guajillo a stwnsh pannas a rwden gan Rosie Birkett
195
