
Ingredients
Ar gyfer y marinâd:
- 500g o ysgwydd neu goes Cig Oen Cymru (wedi’u giwbio)
- 1 ciwb o bast sinsir a garlleg (neu 1 llwy fwrdd o sinsir ffres a garlleg)
- 3 llwy fwrdd o iogwrt naturiol plaen
- 1 llwy de o bowdr coriander
- ½ llwy de o dyrmerig
- 1 llwy de o bowdr tsili ysgafn
- 1 llwy de o garam masala
- Halen i flasu
Ar gyfer y cyri:
- 2 winwnsyn gwyn mawr, wedi’u sleisio’n denau
- 2 lwy fwrdd o olew
- 1 llwy de o bowdr coriander
- ½ llwy de o dyrmerig
- 1 llwy de o bowdr tsili ysgafn
- 1 llwy de o garam masala
- 1 llwy de o bowdr cyri ysgafn (cynyddwch am wres ychwanegol)
- Pinsied o halen
- 2 lwy fwrdd o biwrî tomato
- 1 cwpan o ddŵr
I weini:
- Dail coriander ffres
- Reis a Bara Naan
20
Cooking Time
60
Prep Time
4
Serves
1. Mewn powlen, cymysgwch Gig Oen Cymru gyda phast sinsir a garlleg, iogwrt, coriander, tyrmerig, powdr tsili, garam masala, a halen. Rhowch i un ochr i farinadu.
2. Gwreswch olew mewn padell fawr. Sesnwch y winwns wedi'u sleisio gydag ychydig o halen a'u coginio nes eu bod yn feddal.
3. Ychwanegwch y Cig Oen Cymru wedi'i farinadu at y winwns a browniwch y cig am 5 munud a dod â'r cyfan i swigod ysgafn.
4. Cymysgwch y piwrî tomato gyda chwpan o ddŵr, dewch â'r cig i'r berw yna lleihau'r gwres i fudferwi canolig. Coginiwch am 10 munud nes bod y dŵr wedi anweddu a'r saws wedi tewhau.
5. Addurnwch gyda choriander ffres a tsili gwyrdd wedi'i sleisio cyn ei weini.
Awgrym: Am gyri mwy sbeislyd, cynyddwch y maint o bowdr tsili a phowdr cyri ysgafn yr ydych yn defnyddio.