Mynd i'r cynnwys

Cyri Cig Oen Cymru a mango

Cynhwysion 

  • 450g ysgwydd Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster, wedi’i dorri’n ddarnau mawr
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 2 ewin garlleg, wedi’u malu
  • 2 winwnsyn, wedi’u plicio a’u torri’n chwarteri
  • 2 lwy fwrdd past cyri rogan josh neu past o boethder canolig
  • ½ pwmpen cnau menyn (tua 350g), wedi’i phlicio a’i thorri’n ddarnau
  • ½ planhigyn wy wedi ei dorri’r giwbiau 2cm
  • ½ blodfresychen wedi ei thorri’n fflorets
  • 300ml stoc cig oen
  • 2 lwy fwrdd siytni mango
  • 1 mango ffres, wedi’i blicio a’i dorri’n ddarnau
  • 1 llwy fwrdd coriander ffres, wedi’i falu

120
Amser coginio
25
Amser paratoi 
4
Yn gweini
  1. Cynheswch yr olew mewn padell neu ddysgl gaserol fawr sy'n dal gwres. Ychwanegwch y ciwbiau cig oen, y garlleg a'r winwns. Browniwch y cig yna ychwanegwch y past cyri a'i gymysgu'n dda. Ychwanegwch y bwmpen cnau menyn.
  2. Arllwyswch y stoc cig oen a'r siytni mango i mewn a'i roi mewn popty sydd wedi ei ragdwymo i 160ºC / 140ºC ffan / Marc Nwy 3 gyda chaead arno am 1½-2 awr neu nes bo’r cig yn frau.
  3. Tynnwch y caead, ychwanegwch y planhigyn wy a’r flodfresychen a'r darnau mango i’r cyri 25 munud cyn diwedd yr amser coginio, a'i roi yn ôl yn y popty heb gaead.
  4. Gweinwch y cyri gyda reis a’i addurno gyda’r coriander.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025