- Mwydo coes las y cig eidion, y moron, y winwns a’r bouquet garni yn y cwrw am 12 i 18 awr, gan ei throi ar ôl 6 i 9 awr.
- Tynnu’r goes las allan o’r marinâd cwrw a gwahanu’r cig oddi wrth y moron a’r winwns. Tynnu’r bouquet garni allan, a’i roi o’r neilltu. Ychwanegu’r stoc at y marinâd cwrw, a’i ferwi. Sgimio unrhyw amhuredd sy’n dod i’r top.
- Rhoi lliw ar y goes las yn y menyn a’r olew hadau rêp drwy ei ffrio ar dymheredd isel – mae angen carameleiddio’r cig yn hytrach na’i losgi. Gwneud hyn gyda’r winwns a’r moron hefyd, gan eu carameleiddio’n braf.
- Rhoi pupur a halen ar y cig eidion a’r llysiau ac yna rhoi’r moron a’r winwns dros y goes las. Arllwys y cwrw cynnes a’r stoc cig eidion. Gorchuddio’r cyfan gyda ffoil a’i roi yn y ffwrn ar 160 ºc / 140ºc fan / Nwy 3 am 4 i 6 awr. Dylai’r cig syrthio i ffwrdd o’r braster a’r gewynnau pan fo’n barod.
- Pan fo’r cig wedi coginio, hidlo’r suddion trwy liain mwslin gyda colandr a phadell oddi tano i ddal y stoc a’r cwrw. Sgimio unrhyw fraster oddi ar y stoc. Rhoi 150ml o suddion y goes las o’r neilltu er mwyn creu’r sglein, a lleihau gweddill y saws coes las o ddau draean. Dyma’r saws ar gyfer y cig eidion.
- Er mwyn sgleinio’r cig eidion, twymo’r menyn a’r olew hadau rêp yn ysgafn mewn padell sydd wedi ei thwymo ymlaen llaw gan ychwanegu darnau o goes las y cig eidion ac arllwys ei suddion. Parhau i droi’r darnau o goes las er mwyn eu sgleinio’n ysgafn (a seimio’r menyn a’r sudd sy’n weddill er mwyn eu gorchuddio’n gyfartal). Ychwanegu pupur a halen.
- Er mwyn coginio’r grawn rhyg bioddynamig, chwysu’r shibwns mân yn ysgafn yn y menyn a’r olew hadau rêp a phan fo’r shibwns yn feddal, ychwanegu’r teim a’r grawn rhyg. Tywallt 750ml o’r stoc cig eidion, ei orchuddio â phapur gwrthsaim a rhoi caead ar y sosban. Ei gadw ar dymheredd isel iawn, gan ei droi bob hyn a hyn ac ychwanegu ychydig o stoc os yw’r grawn rhyg yn mynd yn rhy sych. Pan fo’r grawn rhyg wedi coginio, tynnu’r teim allan.
- Yn olaf, dechrau addurno’r plat trwy dwymo’r emylsiwn coginio (y gymysgedd o ddŵr a menyn) mewn sosban a gollwng y sbrigau efwr i mewn iddi. Eu gadael yn yr emylsiwn am funud, yna eu tynnu allan a’u rhoi ar bapur cegin cyn ychwanegu pupur a halen.
- Yna, twymo’r grawn rhyg yn ysgafn a’u cadw’n boeth o’r neilltu, a thwymo’r saws coes las wedi ei dewychu a chadw hwn yn boeth hefyd. Rhoi 2 lwy fwrdd o rawn rhyg yng nghanol pob plat, yna rhoi darn o’r goes las â sglein arni ar y grawn. Gosod yr efwr a’r dail gwyrdd eraill o gwmpas y cig eidion a’r grawn rhyg. Yn ofalus, tywallt ychydig o saws dros y cig eidion a’i weini.
Coes las Cig Eidion Cymru wedi ei choginio’n araf gyda grawn rhyg bioddynamig gan Matt Powell
- Amser paratoi 18 awr
- Amser coginio 6 awr
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 2kg coes las Cig Eidion Cymru (darn cyfan)
- 3 moronen fawr
- 3 winwnsyn mawr
- 1 bouquet garni (clwstwr o berlysiau wedi eu clymu gyda’i gilydd) – teim, rhosmari, marjoram
- 2 botel o gwrw tywyll (mae Pembrokeshire Catchy Pole yn gweithio’n dda!)
- 1.5l stoc cig eidion
- 150g menyn
- 2 lwy fwrdd olew hadau rêp
- Halen a phupur du wedi’i falu
Ar gyfer sglein y cig:
- 150ml suddion y goes las
- 50g menyn
- 1 llwy fwrdd olew hadau rêp
- Halen a phupur du wedi’i falu
Ar gyfer y grawn rhyg bioddynamig (dewisol – gallwch ddefnyddio tatws stwnsh yn lle):
- 260g grawn rhyg bioddynamig organig
- 2 shibwnsyn wedi eu torri’n fân
- 30g menyn
- 1 llwy fwrdd olew hadau rêp
- 1l stoc cig eidion
- 6 sbrigyn o deim
- Halen a phupur
Ar gyfer y planhigion gwrych (dewisol – gallwch ddefnyddio llysiau’r gwanwyn yn lle):
- 8 sbrigyn efwr cyffredin
- 12 deilen dant y llew
- 8 deilen garlleg gwyllt
- Blodau’r llefrith
- Blodau garlleg gwyllt
- 12 deilen suran
- Emylsiwn i goginio’r efwr (yr un faint o ddŵr a menyn, a halen a phupur)