Mynd i'r cynnwys

Cig Eidion Cymreig miso a brocoli

Cynhwysion 

  • 400g o stêc ffolen, wedi’i dorri’n stribedi tenau
  • Pupur du, wedi’i falu’n fras
  • 2 lwy fwrdd o olew

Ar gyfer y saws:

  • 3 llwy fwrdd o saws soi halen is
  • 150ml o stoc cig eidion
  • 2 lwy fwrdd o bast miso gwyn
  • 2 lwy fwrdd o fêl
  • 2 lwy fwrdd o bast cyri Thai coch
  • 1 llwy fwrdd o olew sesame
  • 1 llwy fwrdd o flawd plaen

I orffen:

  • 160g o frocoli coesyn tendr wedi’u dorri’n ddarnau
  • 1 winwnsyn bach, wedi’i dorri’n fân
  • 4 shibwn, wedi’u torri
  • 1 llwy fwrdd o sinsir ffres wedi’i dorri
  • 3 ewin garlleg, wedi’u torri’n fân
  • Hadau sesame wedi’u tostio

15
Amser coginio
20
Amser paratoi 
4
Yn gweini
  1. Gwnewch y saws drwy roi'r cynhwysion mewn powlen a chwisgio nes ei fod yn llyfn.
  2. Sesnwch y cig eidion gyda'r pupur du.
  3. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio a ffriwch y stribedi cig eidion dros wres uchel am ychydig funudau nes eu bod wedi brownio. Gostyngwch y gwres ac ychwanegwch y sinsir, y garlleg, y winwnsyn, y brocoli a'r shibwns, trowch a choginiwch am 4 munud.
  4. Arllwyswch y saws i mewn, trowch yn dda a mudferwch am 5 munud.
  5. Gweinwch gyda reis a thaenellwch yr hadau sesame wedi'u tostio

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025