
Cynhwysion
- 1 llwy fwrdd o olew
- 500g o Gig Eidion Cymreig wedi’i ddeisio
- 1 winwnsyn mawr, wedi’i sleisio
- 6 sleisen o facwn
- 1 moron mawr, wedi’i ddeisio
- 2 goesyn seleri, wedi’u deisio
- 3 ewin garlleg, wedi’u torri’n fân
- 500 ml passata
- 350 ml o stoc cig eidion
- Sesnin
- 1 llwy de o berlysiau cymysg sych
- 2 frigyn o deim ffres
- 2 ddeilen bae
- 500g o gnocchi
- 75g o naddion parmesan
150
Amser coginio
20
Amser paratoi
4
Yn gweini
- Cynheswch yr olew mewn dysgl gaserol ac ychwanegwch y cig eidion. Ffriwch y cig eidion nes ei fod yn frown a'i dynnu o'r ddysgl.
- Ychwanegwch ychydig mwy o olew ac ychwanegwch y winwnsyn, bacwn, moron, seleri a garlleg, ffriwch am ychydig funudau i feddalu.
- Ychwanegwch y passata, y stoc a'r holl berlysiau yna ychwanegwch y cig eidion a'i droi'n dda. Rhowch gaead ar y badell a mudferwch am 2 awr neu nes bod y ciwbiau cig eidion yn dyner.
- Ychwanegwch y gnocchi, trowch a chynheswch am 20 munud arall, gweinwch wedi'i daenu â chaws a salad gwyrdd. *Gallwch goginio hwn yn y popty ar 180°C/160°C ffan