Mynd i'r cynnwys

Cebabs Cig Oen Cymru gyda phinafal, soi a tsili, gyda salad nwdls a llysiau’r gwanwyn

Ingredients

  • 400g stêcs ffolen neu goes Cig Oen Cymru PGI
  • 1 winwnsyn coch, wedi’i dorri’n ddarnau bach

Ar gyfer y sglein:

  • 6 llwy fwrdd sudd pinafal
  • 3 llwy fwrdd jam bricyll neu binafal
  • 1 tsili coch, wedi tynnu’r hadau a’i dorri’n fân
  • 1 llwy fwrdd saws soi

20
Cooking Time
15
Prep Time
2
Serves
  1. Cymerwch y stêcs coes neu ffolen cig oen a'u torri'n giwbiau bychan. Gwthiwch sgiwerau pren hir drwy 2-3 darn o gig a winwns (y sgiwerau wedi'u mwydo mewn dŵr o flaen llaw i’w hatal rhag llosgi).
  2. Gwnewch y sglein: cymysgwch yr holl gynhwysion ar gyfer y sglein mewn sosban fechan. Dewch â'r cymysgedd i'r berw a'i fudferwi heb gaead am 5 munud. Brwsiwch ddigonedd o sglein dros y cebabs.
  3. Rhowch y sgiwerau o dan gril sydd wedi'i dwymo'n barod a'u coginio am 8-10 munud.
  4. Rhowch fwy o'r sglein ar y cebabs.
  5. Berwch unrhyw sglein sydd ar ôl yn drwyadl a'i weini wedi'i daenu dros y cebabs.
  6. Gweinwch gyda salad nwdls a llysiau'r gwanwyn (pys, pys melys, asbaragws). Gallwch dorri pinafal ffres yn giwbiau a'u grilio hefyd - mae'n flasus tu hwnt!

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025