
Cynhwysion
- Sgiwerau metel neu pren (gall rhai pren cael eu socio mewn dŵr fel nad ydynt yn llosgi)
Marinâd:
- 2 nionyn –wedi’i dorri’n fân
- 6 llwy fwrdd o jam bricyll
- 1 llwy fwrdd o siwgr demerara
- 3 ewin garlleg – wedi’u gratio
- 2 llwy fwrdd o powdr cyri
- 25ml finegr brag
- Halen a pupur i sesno
Cig Oen:
- 300g coes cig oen heb asgwrn neu gwddf cig oen wedi’u deisio mewn i giwbiau maint modfedd
- ½ calch ffres i wasgu drosodd ar ôl coginio
Salad ciwcymbr:
- 1 ciwcymbr
- 2 llwy fwrdd o finegr gwin gwyn
- 1 llwy de o naddion tsili
- ½ llwy de o hadau cwmin
- Halen a pupur i sesno
- Llond llaw o gnau daear – wedi’u dorri’n fras
- Llond llaw o goriander– wedi’u dorri’n fras
Iogwrt garlleg:
- 2 llwy fwrdd o iogwrt Groeg
- 1 ewin garlleg – wedi’i malu
- Lemwn – wedi’i gwasgu
- Naan garlleg, bara gwastad neu tortilla
- Dewisol – hadau nigella
30
Amser coginio
30
Amser paratoi
2
Yn gweini
âd:
Ffriwch winwns mewn llwy fwrdd o olew llysiau, draeniwch a chymysgwch gyda'r holl gynhwysion uchod. Rhwbiwch i mewn i'r ddarnau cig oen a gadewch am 24 awr (neu bydd hanner awr yn ddigon os nid oes gennych amser)
Salad ciwcymbr:
Rhowch ciwcymbr i mewn i bag a bwrwch gyda rholbren nes bod darnau bach yn torri bant.
Mewn powlen, rhowch y ciwcymbr, 2 llwy fwrdd o finegr gwin gwyn, y tsili, cwmin, halen a pupur, cnau daear a'r coriander a cymysgwch yn ysgafn. Gadewch i drwytho tra byddwch yn coginio'r cig oen.
Cig Oen:
Noson gynt - marinRhowch y darnau cig oen ar sgiwer a chynhesu padell gril ar y stôf nes ei fod yn chwilboeth.
Rhowch gig oen wedi'i olewi ar y badell a choginiwch am 10 – 15 munud ar gyfer cig canolig – prin. Gorffennwch trwy wasgu dros ychydig o galch ffres
Iogwrt: Cymysgwch yr holl cynhwysion a gwasgwch lemwn i flasu I weini: Cynheswch eich naan / tortilla am 30 eiliad yn y microdonDaliwch yn un llaw a rhowch y sgiwer cig oen i mewn, caewch eich dwrn a thynnwch gan adael y cig oen yn ei le. Gweinwch gyda salad ciwcymbr a'ch iogwrt garlleg
Chwistrellwch â mintys ffres, a choriander wedi'u torri'n fras. Hefyd, gweinwch gyda hadau nigella os ydych eisiau.