Noson gynt – marinâd:
Ffriwch winwns mewn llwy fwrdd o olew llysiau, draeniwch a chymysgwch gyda’r holl gynhwysion uchod. Rhwbiwch i mewn i’r ddarnau cig oen a gadewch am 24 awr (neu bydd hanner awr yn ddigon os nid oes gennych amser)
Salad ciwcymbr:
Rhowch ciwcymbr i mewn i bag a bwrwch gyda rholbren nes bod darnau bach yn torri bant.
Mewn powlen, rhowch y ciwcymbr, 2 llwy fwrdd o finegr gwin gwyn, y tsili, cwmin, halen a pupur, cnau daear a’r coriander a cymysgwch yn ysgafn. Gadewch i drwytho tra byddwch yn coginio’r cig oen.
Cig Oen:
Rhowch y darnau cig oen ar sgiwer a chynhesu padell gril ar y stôf nes ei fod yn chwilboeth.
Rhowch gig oen wedi’i olewi ar y badell a choginiwch am 10 – 15 munud ar gyfer cig canolig – prin. Gorffennwch trwy wasgu dros ychydig o galch ffres
Iogwrt:
Cymysgwch yr holl cynhwysion a gwasgwch lemwn i flasu
I weini:
Cynheswch eich naan / tortilla am 30 eiliad yn y microdon
Daliwch yn un llaw a rhowch y sgiwer cig oen i mewn, caewch eich dwrn a thynnwch gan adael y cig oen yn ei le. Gweinwch gyda salad ciwcymbr a’ch iogwrt garlleg
Chwistrellwch â mintys ffres, a choriander wedi’u torri’n fras. Hefyd, gweinwch gyda hadau nigella os ydych eisiau.