Stiw maethlon, cynaliadwy a persawrus o ffa gwyn gyda rhosmari, garlleg, saets a darnau toddedig o stêc coes Cig Oen Cymru, wedi’i orffen gyda sbigoglys wedi gwywo, salsa verde gwyrdd llachar a winwnsyn pinc wedi’u piclo. Y rysáit perffaith i fis Ionawr – rhywbeth i godi calon ac yn gynaliadwy iawn gan ddiolch i’r ffa a Chig Oen Cymru. Hefyd, un pot, felly llai o olchi llestri! Fe wnaeth mam fersiwn o hwn i mi pan symudon ni i’n tŷ newydd ac mae’n rysáit hynod flasus, anhygoel yr wyf wrth fy modd yn ei ail-greu.
- Nid yw’n hollbwysig, ond rwy’n hoffi gwneud ‘cartouche’ (darn crwn o bapur pobi a ddefnyddir i orchuddio wyneb dysgl tra mae’n coginio) gan ei fod yn helpu i gadw lleithder a blas ac yn cadw’r cig yn dyner iawn. Mae’n hawdd iawn i’w wneud, rydych chi’n cydio mewn darn o bapur pobi, a’i roi dros y pot neu’r badell y byddwch chi’n ei ddefnyddio, a’i dorri’n fras i gyd-fynd â maint yr agoriad. I greu siâp crwn gwastad, plygwch y papur yn ei hanner, yna yn ei hanner eto i ffurfio sgwâr neu driongl llai. Parhewch i’w blygu i siâp lletem gul, yn debyg i bluen eira papur. Ar ôl ei blygu, daliwch ben pigfain y lletem yng nghanol eich pot a thorrwch yr ymyl allanol i gyd-fynd â maint y pot – peidiwch â phoeni os nad yw’n berffaith. Pan fyddwch chi’n ei ddadblygu, dylai fod gennych ddarn crwn o bapur sy’n ffitio’n dda. Er mwyn gadael i ychydig o stêm ddianc wrth goginio, torrwch dwll bach yng nghanol y papur. Neilltuwch am y tro.
- Nawr, i wneud y stiw, cynheswch lwy fwrdd o’r olew olewydd mewn sgilet haearn gwaelod trwm neu badell ffrio. Sesnwch y cig yn dda gyda halen a phupur a browniwch y cyfan yn yr olew, yna tynnwch i bowlen. Diwydrwch y badell gyda’r gwin, gan grafu unrhyw ddarnau brown cigog a chrystiog sydd wedi ffurfio, ac arllwyswch yr hylif dros y cig oen.
- Glanhewch y badell, a’i dychwelyd i’r gwres gyda sblash mwy o olew olewydd, yna ychwanegwch y rhosmari, bae a saets a chwyrlïo i drwytho yn yr olew cynnes. Cyn iddo ddechrau brownio, ychwanegwch y llysiau, sesnwch gyda phinsiad da o halen a naddion chilli, a choginiwch yn ysgafn dros wres canolig, nes ei fod yn feddal ac yn bersawrus – 5-8 munud. Ychwanegwch y garlleg a chroen y lemwn, cymysgwch a choginiwch am ychydig funudau arall, yna arllwyswch y ffa a hanner eu stoc drosto a dewch ag ef i’r berw. Trowch i lawr i fudferwi, ychwanegwch y cig a’r gwin yn ôl i mewn, gorchuddiwch wyneb y cassoulet gyda chartouche, rhowch y caead yn ei le, ond gadewch ef ar agor tamed i ollwng ychydig o stêm, a choginiwch bopeth yn ysgafn am ddwy i dair awr, neu hyd nes bydd y cig yn toddi ac yn dyner. Unwaith y bydd yn dyner i cyffwrdd gyda fforc, trowch y sbigoglys i mewn i wywo, a’r ffa menyn ychwanegol i’w troi, a gorffennwch gyda’r persli ffres.
- I wneud y salsa verde, torrwch yr holl berlysiau a’r capers yn fân a chymysgwch gyda’r brwyniaid, garlleg, mwstard, olew olewydd, halen a phupur ac yna gorffen gyda’r finegr gwin coch, gan ychwanegu llwy de ar y tro nes ei fod yn finiog ac yn siplyd.
- Rhowch y cassoulet rhwng powlenni cynnes a rhowch lond llwyaid o’r saws gwyrdd ar ei ben. Gweinwch gyda cwscws enfawr neu bara garlleg poeth.
Offer:
1 dysgl gaserol mawr, waelod trwm, â chaead arni
1 ddalen o bapur gwrthsaim i wneud ‘cartouche’