Mynd i'r cynnwys

Bowlen Poke Cig Oen Cymru Fediteranaidd

Cynhwysion 

  • 2 stêc coes Cig Oen Cymru

I’r marinâd:

  • 1 llwy fwrdd o olew
  • 3 ewin garlleg wedi’u gratio
  • ½ llwy de o rosmari sych
  • 1 llwy de o gwmin sych
  • Halen a phupur
  • Sudd ½ lemwn

Ar gyfer y bowlenni:

  • 150g o gwscws perlog wedi’i goginio mewn stoc cyw iâr
  • Salad Groegaidd bach wedi’i wneud gyda thomatos ceirios, ffeta, ciwcymbr wedi’i ddeisio, winwns coch wedi’u sleisio.
  • 1 tun o ffacbys wedi’u draenio
  • Slaw wedi’i wneud gyda chyrlau moron wedi’u plicio’n denau, dail salad a winwns coch wedi’i sleisio

Ar gyfer y dresin:

  • 2 lwy fwrdd o iogwrt Groegaidd
  • 1 llwy fwrdd olew olewydd
  • 2 lwy fwrdd Tahini
  • Sudd ½ lemwn
  • 3 ewin garlleg, wedi’u gratio
  • Halen a phupur
  • ½ llwy de oregano sych

10
Amser coginio
60
Amser paratoi 
2
Yn gweini
  1. Rhowch holl gynhwysion y marinâd mewn powlen a chymysgwch yn dda, yna ychwanegwch y stêcs a'u gorchuddio â'r cymysgedd. Gorchuddiwch a rhowch yn yr oergell am awr neu fwy.
  2. Paratowch yr holl gynhwysion ar gyfer y powlenni.
  3. Mewn powlen fach cymysgwch gynhwysion y dresin gyda'i gilydd. Cadwch yn yr oergell tan ei weini.
  4. Coginiwch y cig oen trwy ei ffrio mewn padell boeth am 3-5 munud ar bob ochr, lapiwch mewn ffoil i orffwys wrth gydosod y powlenni.
  5. Unwaith y bydd y cynhwysion wedi'u rhoi yn y powlenni, rhowch y cig oen wedi'u sleisio a'r dresin ar ei ben.
 

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025