Mynd i'r cynnwys

Bowlen Poke Cig Eidion Cymreig Coreaidd

Cynhwysion 

  • 450g o stêc ffolen Cig Eidion Cymreig heb lawer o fraster, wedi’i sleisio’n denau
  • Olew
  • 1 llwy fwrdd o hadau sesame wedi’u tostio

 

Ar gyfer y marinâd:

  • 2 lwy fwrdd o saws soi halen isel
  • 1 llwy de o siwgr brown
  • 1 llwy de o flawd corn
  • 1 llwy fwrdd o saws Gochujan neu Sriracha
  • 1 llwy fwrdd o sinsir ffres wedi’i gratio
  • 3 ewin garlleg, wedi’u malu
  • 2 lwy fwrdd o olew sesame wedi’i dostio

 

Ar gyfer y saws:

  • 100g o fenyn cnau daear lyfn neu Tahini
  • 2 lwy fwrdd o Sriracha
  • 2 lwy fwrdd o finegr reis
  • 2 lwy fwrdd o saws soi halen isel
  • Sudd 1 leim

 

Ar gyfer y bowlenni (Dewis o):

  • 2 becyn o reis Basmati a reis grawn cyflawn wedi’u goginio
  • 1 afocado wedi’i sleisio
  • Kimchi
  • 8 brigyn o frocoli coesyn tendr, wedi’u stemio neu eu grilio
  • Slaw wedi’i wneud gyda bresych coch, moron, shibwns
  • Coriander
  • 2 wy wedi’u berwi, wedi’u coginio yn ôl eich hoffter

10
Amser coginio
30
Amser paratoi 
4
Yn gweini
  1. Mewn powlen, ychwanegwch y blawd, saws soi, siwgr, sriracha, sinsir, garlleg ac olew sesame.
  2. Ychwanegwch y cig eidion a'i chymysgu'n dda.
  3. Gorchuddiwch a gadewch yn yr oergell am awr.
  4. Gwnewch y saws trwy gymysgu'r holl gynhwysion gyda'u gilydd, os yw'n rhy drwchus ychwanegwch ychydig o ddŵr.
  5. Paratowch y cynhwysion ar gyfer y powlenni.
  6. Coginiwch y cig eidion trwy gynhesu'r olew mewn padell ffrio, defnyddiwch lwy hollt i godi'r cig eidion allan o'r marinâd, ychwanegwch at y badell a ffriwch am 3-4 munud nes ei fod yn frown.
  7. Ychwanegwch ychydig o'r marinâd i orchuddio'r cig a ffriwch am funud arall nes ei bod wedi tewhau.
  8. Cydosodwch y powlenni gan ddechrau gyda sylfaen reis a'u gorchuddio â'r cynhwysion.
  9. Gorffennwch y powlenni gyda'r cig eidion crensiog a hanner wy ac arllwyswch y saws drosto.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025