Mynd i'r cynnwys

Asennau Asiaidd gludiog Cig Eidion Cymru

Cynhwysion 

  • 1 llwy fwrdd o olew
  • 6 asen fer Cig Eidion Cymru
  • 500ml o stoc cig eidion
  • 2 llwy de o baprica
  • Halen a phupur
  • Darn 4 cm o sinsir ffres, wedi’i gratio
  • 3 ewin garlleg, wedi’u gratio
  • 1 llwy fwrdd o finegr seidr afal
  • 1 llwy fwrdd o siwgr brown tywyll

 

Ar gyfer y saws gludiog:

  • Darn 4 cm o sinsir ffres, wedi’i gratio
  • 1 tsili coch, wedi’i dorri’n fân
  • 2 lwy fwrdd o fêl
  • 3 llwy fwrdd o saws soi halen is
  • 2 lwy fwrdd o saws hoisin

I’w gweini:

  • Shibwns
  • Hadau sesame

210
Amser coginio
25
Amser paratoi 
4
Yn gweini
  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 170C, 140C Ffan, Nwy 3
  2. Rhowch yr olew mewn padell ffrio a'i gynhesu, ychwanegwch yr asennau a'u ffrio i gyd nes eu bod yn frown ac yn crimpio'r wyneb.
  3. Rhowch y stoc, paprica, sesnin, sinsir, garlleg, finegr a siwgr brown mewn dysgl gaserol a'i chymysgu'n dda. Ychwanegwch yr asennau a gorchuddiwch y ddysgl yn dynn gyda ffoil neu gaead.
  4. Rhowch yn y popty a choginiwch am tua 3 awr nes bod y cig yn dyner iawn ond heb ddisgyn oddi ar yr asgwrn. Pan fyddant wedi'u coginio, tynnwch yr asennau'n ofalus o'r stoc, cadwch yr hylif os ydych chi am dewychu i wneud saws.
  5. Mewn powlen fach, cymysgwch y cynhwysion ar gyfer y saws gludiog yna rhowch mewn padell ffrio a dod ag ef i'r berw. Ychwanegwch yr asennau a llwywch y saws drostynt i gyd, cynheswch am ychydig funudau nes bod yr asennau'n wirioneddol ludiog.
  6. Gweinwch wedi'i daenu â hadau sesame a sleisys neu gyrlau o shibwns.
  7. Blasus wedi'i weini gyda slaw.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025