- Rhowch dipyn o sesnin ar eich asen cig eidion gyda halen a phupur. Lapiwch yn llac mewn ffoil ond gwnewch yn siwr fod y ffoil wedi ei selio’n dynn. Defnyddiwch fwy nag un haen os oes angen. Rhowch ar hambwrdd pobi gyda rac i gasglu unrhyw sudd wrth goginio. Rhowch gwpanaid o ddŵr yn ngwaelod yr hambwrdd fydd yn cyfrannu at y sudd. Rhowch yn y ffwrn ar 100ºC / 80ºC fan / Nwy 1 a’i adael am 12 awr.
- 12 awr yn ddiweddarach, tynnwch allan o’r ffwrn, ac arllwyswch y sudd i jwg neu ddysgl ar wahan. Gadewch yr asen i oeri nes y gallwch ei drin yn gyffyrddus. Torrwch yr asennau yn unigol rhwng yr esgyrn a ffriwch ar bob ochr er mwyn selio a sgleinio’r cig (ei liwio a’i ffrio nes ei fod yn crensian. Does dim angen olew i’w ffrio, daw digon o fraster o’r cig.
- Wedi iddo liwio, ychwanegwch ychydig o’r sudd coginio ac ychydig o saws soi a brwsiwch y cig gyda’r gymysgedd.
Y garnais:
- Pliciwch a thorrwch y tatws melys i sglodion 1cm o drwch. Rhowch ddogn hael o olew mewn padell ffrio ac ychwanegwch y sglodion, ffriwch nes iddynt liwio ac iddynt fod yn dyner. Rhowch sesnin ar y sglodion a’u draenio. Torrwch y sibwns a’r coriander yn fân a thaenwch dros y sglodion.
- Torrwch y tsili yn fân a gorchuddiwch gyda’r finegr gwin gwyn. Po hiraf y gadewch chi’r tsili yn y finegr, y lleiaf o wres fydd iddo.
- Tostiwch yr hadau sesame mewn padell ffrio sych nes eu bod yn euraid.
- Ysgeintiwch yr hadau sesame dros y sglodion cig a rhowch ychydig o iogwrt drostynt a tsilis wedi’u piclo – cymaint ag y dymunwch.
- Bon appetit!