Mynd i'r cynnwys

Coes Cig Oen Cymru Sbeislyd Gyda Saws Iogwrt Tahini gan Chris Baber

Cynhwysion 

  • 1.5-2kg o goes ddi-asgwrn Cig Oen Cymru

Ar gyfer y marinâd:

  • 4 llwy fwrdd o iogwrt plaen
  • 2 ewin o arlleg wedi’u gratio#
  • 2 llwy de o baprica mwglyd
  • 2 llwy de o goriander mâl
  • 2 llwy de o gwmin
  • 1 llwy de o halen
  • Sudd 1/2 lemwn
  • 1 llwy fwrdd o olew olewydd

Ar gyfer y saws iogwrt Tahini:

  • 5 llwy fwrdd o iogwrt Groegaidd
  • 2 llwy fwrdd o tahini
  • Croen a sudd 1/2 lemwn
  • Pinsied o halen

Ar gyfer yr addurn:

  • 1 pomgranad
  • Llond llaw o ddail mintys

35
Amser coginio
35
Amser paratoi 
5+
Yn gweini
  1. Cymysgwch gynhwysion y marinâd gyda'u gilydd mewn powlen fach
  2. Rhowch y cig oen mewn dysgl neu dun rhostio (a fydd yn ffitio yn yr oergell). Arllwyswch y marinâd drosto. Gorchuddiwch yn gyfartal. Gorchuddiwch a'i roi yn yr oergell dros nos
  3. I goginio, tynnwch y cig oen o'r oergell 1-2 awr cyn coginio
  4. Cynheswch y gwres ymlaen llaw i dros 200'c
  5. Trosglwyddwch y cig oen i ddysgl neu hambwrdd rhostio sy'n addas ar gyfer y popty.
  6. Coginiwch ar 200'c am 15 munud yna lleihau'r gwres i 180'c. Coginiwch am 10 munud arall ar gyfer cig oen canolig neu 15-20 ar gyfer cig oen wedi'i goginio'n dda.
  7. Am liw mwy llosg, coginiwch o dan gril poeth am 5 munud
  8. Gadewch i'r cig oen orffwys am 20 munud cyn ei dorri'n dafelli tenau
  9. Ar gyfer y saws, cymysgwch gynhwysion y saws iogwrt gyda'u gilydd mewn powlen fach. Rhowch o'r neilltu tan ei weini
  10. Rhowch y cig oen wedi'i sleisio ar ddysgl weini
  11. Taenellwch hadau pomgranad a dail mintys
  12. Taenellwch ychydig o'r saws ac unrhyw sudd sy'n weddill drosto
  13. Gweinwch

More like this


© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025