Does dim byd tebyg i ginio rhost Cig Oen Cymru neu Gig Eidion Cymru gyda’r trimins i gyd.
Does dim curo chwaith ar bryd swmpus o bourguignon Cig Eidion Cymru gyda thatws stwnsh poeth neu bastai’r bugail Cig Oen Cymru â saws Morocaidd sbeislyd.
Fodd bynnag, oeddech chi’n gwybod y gallech chi hefyd fwynhau ochr ysgafnach Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru heb gyfaddawdu ar y blas? Mae’r dudalen hon yn llawn dop o brydau ysgafnach ac yn dangos i chi pa mor hyblyg yw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.
Isod, rydym yn cynnig rhai awgrymiadau ar gyfer bwyta’n iachach yn ogystal ag ychydig o ysbrydoliaeth ryseitiau blasus.
Bwyta’n ysgafnach, teimlo’n brafiach
Mae llawer o fanteision i fwyta prydau ysgafnach, yn enwedig gyda’r nos pan fydd ein cyrff yn paratoi i ymlacio. Mae’r buddion hyn yn cynnwys gwell cwsg, treuliad, metaboledd, ffocws, a rheolaeth ar bwysedd gwaed. Mae cig coch heb lawer o fraster, sy’n cael ei fwyta’n gymedrol ac fel rhan o ddiet iach a chytbwys, yn opsiwn gwych ar gyfer bwyta’n ysgafnach, gan sicrhau ein bod yn cael digon o’r fitaminau a’r mwynau hanfodol sydd eu hangen ar ein cyrff.
- Bwytewch broteinau yn gynharach yn y dydd| Mae cig coch yn ffynhonnell naturiol a rhagorol o brotein, a all helpu I leihau teimladau o fod yn llwglyd a lleihau cymeriant egni cyffredinol.
- Rhowch hwb I’ch statws haearn| Mae cig coch yn ffynhonnell gyfoethog o haearn, sy’n helpu I leihau blinder a llesgedd. Gall bwyta cig coch heb lawer o fraster ynghyd â digon o lysiau gwyrdd roi hwb I’n statws haearn.
- Cadwch bethau’n ysgafn ac yn gynnar | Gall bwyta pryd ysgafnach gyda’r nos, heb fod yn rhy agos at amser gwely, helpu ein cyrff I dreulio bwyd a defnyddio’r maetholion yn fwy effeithiol.
- Bwytewch frasterau da yn gynharach yn y dydd | Mae braster yn ffynhonnell egni ac yn darparu asidau brasterog hanfodol na all y corff eu creu a rei ben ei hun. Mae cig coch sy’n cael ei fwydo gan laswellt yn cynnwys Omega 3, sy’n hanfodol ar gyfer iechyd yr ymennydd.
Syniadau ac awgrymiadau i gadw pethau’n ysgafn
Os nad yw hi’n fawr mae hi’n ddigon
…Mae hyn yn wir o ran faint o fwyd rydych chi’n ei roi ar eich plât. Bydd rheoli dognau nid yn unig yn eich helpu i fonitro eich cymeriant, ond mae hefyd yn golygu y gallwch gadw’r sbarion i’w mwynhau ryw ddiwrnod arall!
Prydau ochr
Mae llysiau gwyrdd a salad yn ychwanegiadau perffaith, yn enwedig yn ystod misoedd cynhesach yr haf. Gallwch barhau i fwynhau lasagne Cig Eidion Cymru neu bastai pasta ragu Cig Oen Cymru – beth am gyfnewid sglodion neu fara garlleg am rywbeth ysgafnach fel salad neu lysiau gwyrdd.
Casgliad o ryseitiau
Rydyn ni wedi creu casgliad o rai o’n hoff ryseitiau sy’n ysgafnach ond sy’n dal yn llawn dop o flas unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. O brydau ysgafn Cig Oen Cymru i ryfeddodau hyfryd Cig Eidion Cymru – mae ‘na ddigon o ddewis.
Saladau ‘sblennydd
Ambell beth bach blasus
Prydau perffaith
Prydau tro-ffrio a chyrris
Rhywbeth rhyfeddol
Rhagor o awgrymiadau ar goginio gyda Cig Oen Cymru
I gael rhagor o awgrymiadau ar sut i goginio’n iach gyda Chig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, ewch i’n tudalennau Iechyd.