Cael yr hyn sydd ei angen arnon ni …mewn ffordd naturiol
Mae pethau’n newid. Mae hyd yn oed anghenion maethol ein cyrff yn amrywio ac yn newid yn ystod ein bywydau, ac mae’n hanfodol ein bod ni’n gofalu am ein cyrff er mwyn bod yn iach ac yn hapus o fabandod hyd cyfnodau hwyrach ein bywydau.
A oes un bwyd y dylen ni ei fwyta sy’n rhoi ein holl anghenion dietegol i ni? Yn syml, yr ateb yw ‘nag oes’; nid oes yr un bwyd unigol sy’n cynnwys yr holl faetholion sydd eu hangen arnon ni i fod yn iach. Y ffordd hawsaf i fyw’n iach yw bwyta amrywiaeth o wahanol fwydydd.
Serch hynny, mae un bwyd sy’n gallu ein helpu ni i gael digon o haearn, potasiwm, magnesiwm, zinc, Fitaminau B, a Fitamin D yn ystod pob cyfnod o’n bywydau: cig coch.
Gan ei fod yn llawn dop o fitaminau a mwynau hanfodol, gall diet cytbwys gyda chig coch yn sail iddo ein helpu ni i gadw’n ffit ac yn iach trwy gydol ein bywydau.
Gall bwyta hyd at 500g o gig coch wedi ei goginio bob wythnos fod yn greiddiol i ddiet iach a chytbwys.
Mae cig coch yn naturiol gyfoethog mewn protein ac mae’r fitaminau a’r mwynau mae’n eu cynnwys yn cynnig nifer o fanteision iechyd. Er enghraifft, gall helpu rheolaeth ein cyrff dros bwysau gwaed; iechyd llygaid a chroen; iechyd esgyrn; gweithrediad y cyhyrau a’r nerfau; iechyd atgenhedlol; gwallt ac ewinedd; trosglwyddo ocsigen sy’n ein hatal rhag teimlo’n flinedig; yn ogystal â gweithrediad yr imiwnedd a gweithrediad gwybyddol. Gall hefyd ein helpu ni i ganolbwyntio a gall gynnig ynni cyson inni i gario ymlaen gyda ein bywydau bob dydd.
Mae cig coch yn cynnwys y mathau o haearn a zinc sy’n cael eu hamsugno’n well gan ein cyrff na’r rheini sydd i’w cael mewn unrhyw ffynonellau dietegol eraill. Caiff haearn hema o gig coch ei amsugno 2-6 gwaith yn well na ffynonellau haearn heb hema.
Mae bwyta Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru blasus fel rhan o ddeiet iach a chytbwys yn ffordd wych o sicrhau eich bod chi’n cael yr hyn sydd ei angen arnoch chi ar gyfer iechyd da – fel sy’n naturiol.