Mae Gareth yn cael ei ddisgrifio gan lawlyfr Michelin fel “gwirioneddol angerddol dros gig, gan ei drin â gwybodaeth a gofal”, ac mae’n cael ei enwi’n rheolaidd fel un o’r cogyddion mwyaf cyffrous sy’n coginio yn y DU heddiw. Ei fwyty Ynyshir Restaurant and Rooms sydd wedi ennill y mwyaf o wobrau yng Nghymru gyfan, ac mae ganddo ddau seren Michelin, pum rosette AA ac mae wedi’i enwi yn 5 uchaf y Good Food Guide (yn ogystal â chael ei enwi’n gogydd y flwyddyn ar gyfer 2019). Yn fwy diweddar urwddwyd fel bwyty’r flwyddyn ar gyfer 2022 yng ngwobrau’r National Restaurant of the Year. Mae Gareth yn ymfalchïo yn y ffaith nad oes ganddo “ddim reolau, dim canllawiau” wrth iddo barhau i adeiladu ar y llwyddiant syfrdanol o droi lleoliad anghysbell – ond prydferth – yng nghanolbarth Cymru yn gyrchfan fwyd flaenllaw ynddo’i hun, a’r cyfan mewn cyfnod cymharol fyr.
Cig Oen Cymru i’w rannu…
Mae Cig Oen Cymru yn ddewis gwych i fwydo torf – mae cymaint o ddarnau i ddewis o’u plith. Mae hefyd yn gig hyblyg iawn y gellir ei ddefnyddio mewn llawer o fwydydd, a dyna’n union pam mae cogyddion campus fel Gareth yn ei ddefnyddio.
Mae rhywbeth arbennig am rannu bwyd da gyda’ch hoff bobl – yn enwedig os nad ydych chi wedi’u gweld nhw ers talwm. Felly, mae’n addas iawn eich bod chi’n gwneud ymdrech i roi gwledd go iawn iddyn nhw (a dangos eich sgiliau coginio newydd!).
Mae Gareth yn enwog am greu prydau anhygoel i’w gwsmeriaid yn Ynyshir, ac i nodi Calan Oen, mae wedi rhannu dau o’i ffefrynnau Cig Oen Cymru gyda ni. Maen nhw’n berffaith i’w gweini i 6-8 o bobl ar yr achlysur arbennig ‘na y mae mawr ddisgwyl amdano.
Cefnddryll Cig Oen Cymru
Mae’r pryd hyfryd hwn yn asio blasau traddodiadol cig oen a mintys ond gydag awgrym bach o nionyn picl! Ond nid unrhyw hen nionyn picl mo hwn, dyma nionyn picl Gareth Ward.
Shawarma Cig Oen Cymru
Crewch argraff ar eich ffrindiau a’ch teulu gyda phryd sy’n berffaith i’w rannu. Sleisys suddlon o Gig Oen Cymru gyda garneisiau blasus a bara croyw.
Beth sy’n gwneud Cig Oen Cymru mor arbennig?
Mae Gareth yn credu’n gryf yng Nghig Oen Cymru oherwydd iddo ef, mae’n rhan o DNA’r genedl i’w gynhyrchu.
“Angerdd y ffermwyr, y tir y mae eu da byw yn cael ei fagu arno a’r glaswellt maen nhw’n ei fwyta – mae’r rhain i gyd yn cyfuno i greu cynnyrch unigryw. Rwy’n cael mwynhad arbennig o’i goginio oherwydd fy mod i’n gweld angerdd ac ymroddiad y ffermwyr – bob wythnos. Mae ei gynhyrchu yn greiddiol i’w bywyd ac mae hyn i gyd yn amlwg yn y blas. Mae gallu ei olrhain i’r fferm lle cafodd ei fagu hefyd mor bwysig ac yn eithaf arbennig. Hefyd, mae’r ffaith ei fod mor hyblyg yn caniatáu i chi arbrofi gyda gwahanol flasau a dulliau coginio.”
Cyngor campus Gareth ar gyfer coginio gyda Chig Oen Cymru
Rydych chi wedi prynu darn hyfryd o Gig Oen Cymru, ond sut mae rhoi’r parch mae’n ei haeddu iddo? Sut mae cael y blas gorau ohono? Dyma gyngor gwych Gareth am Gig Oen Cymru:
- Dewch I adnabod eich cyflenwyr
- Coginiwch y braster arno bob tro (hyd yn oed os byddwch chi’n ei dynnu nes ymlaen)
- Cadwch y tymheredd yn isel ac yn araf wrth goginio
- Tynerwch y cig cyn ei goginio
- Coginiwch ar yr asgwrn bob tro (os yn bosib!)
- Mwynhewch y profiad o goginio