Mae’r cogydd â seren Michelin Nathan Davies o fwyty arobryn SY23 yn Aberystwyth wedi lansio ymgyrch Cig Oen Cymru PGI newydd gyda dosbarth meistr coginio yn Sioe Frenhinol Cymru.
Bydd yr ymgyrch, a fydd yn cynnwys cymysgedd o deledu proffil uchel, gweithgareddau allanol a digidol ledled y wlad, yn gosod arbenigedd y ffermwyr sy’n cynhyrchu’r bwyd wrth ei chalon eleni, ac yn arddangos yr hyn sy’n ei wneud yn arbennig.
Dan faner ‘Unigryw i Gymru. Arbenigwyr yn eu maes,’ bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio nid yn unig ar y cenedlaethau o draddodiad ffermio sy’n diffinio’r diwydiant, ond sut mae’r arbenigedd hwnnw’n ymestyn ar draws y gadwyn fwyd hyd at y cogyddion blaenllaw sy’n ei ddefnyddio oherwydd ei flas a’i nodweddion unigryw.
Mae ffermwyr yn rhan annatod o stori Cig Oen Cymru. Mae glaswelltir bryniau Cymru wedi’i reoli gan ffermwyr drwy gyfuniad o arferion traddodiadol oesol, ynghyd â dulliau mwy modern i fodloni gofynion newidiol defnyddwyr, a sicrhau ei fod yn cael ei gynhyrchu i’r safonau moesegol ac amgylcheddol uchaf.
Yng Nghymru, mae defaid yn cael eu magu i raddau helaeth ar ei hadnoddau naturiol, fel glaswellt a dŵr glaw, ac mae 80% o’i ffermdir yn anaddas ar gyfer tyfu cnydau. Mae hyn yn golygu mai magu da byw yng Nghymru yw’r ffordd fwyaf effeithlon o droi tir ymylol yn fwyd o ansawdd uchel.
Un o’r ffermwyr sy’n cymryd rhan yn yr ymgyrch eleni yw Emily Jones o Fferm Garnwen ym Mhenuwch, Ceredigion. Hi yw’r bedwaredd genhedlaeth o’i theulu i ffermio’r un darn o dir yn ucheldiroedd canolbarth Cymru, ac mae ffermio’n angerdd ac yn ffordd o fyw iddi. Dywedodd,
“Rydw i wedi bod yn ffermio gyda fy nheulu ar hyd fy oes, ac allwn i ddim meddwl am unrhyw beth arall y byddai’n well gen i ei wneud.
“Er fy mod wedi dysgu popeth rwy’n ei wybod gan fy nheulu, fel y gwnaethant hwythau gan y genhedlaeth o’u blaenau, hoffwn feddwl fy mod wedi ychwanegu rhywfaint o fy ngwybodaeth fy hun ar hyd y ffordd. Y cymysgedd hwn o’r hen draddodiadau a dyfeisiadau newydd sy’n diffinio ein ffermydd teuluol yng Nghymru.
“Gan ei bod yn gallu bod yn ffordd mor galed ac anodd o fyw, rydw i wir yn credu mai dim ond os ydych chi’n teimlo’r angerdd am y gwaith, a chysylltiad â’r wlad sy’n cynhyrchu’r bwyd, y gallwch chi ei wneud.
“Yr angerdd a’r arbenigedd hwn sy’n disgleirio yn y pen draw i gynhyrchu rhywbeth sydd nid yn unig yn cael ei barchu ledled y byd am ei ansawdd a’i flas, ond rhywbeth y mae rhai o gogyddion a bwytai mwyaf blaenllaw’r byd hefyd yn galw amdano.”
Wedi’i fagu’n bennaf ar laswellt yn ei amgylchedd naturiol, unigryw, mae Cig Oen Cymru yn cael ei ddathlu gan gogyddion gorau’r byd am ei hyblygrwydd a’i flas ffres, blasus.
I gyd-fynd â’r ymgyrch newydd, cynhaliodd Nathan Davies o fwyty SY23 yn Aberystwyth ddosbarth meistr coginio yn y Sioe Frenhinol. I ddangos pa mor amlbwrpas a hawdd yw paratoi a choginio prydau o safon bwyty gartref, roedd yn gallu dangos y gall Cig Oen Cymru fod yr un mor flasus a maethlon.
Mae Nathan wedi ymuno â nifer o gogyddion blaenllaw i greu dosbarthiadau meistr coginio i helpu pobl i gael y gorau o goginio gyda Chig Oen Cymru gartref. Mae’r rhain yn cynnwys Owen Morgan, James Chant, Leyli Homayoonfar, Tommy Heaney a Laura Willet.
Wrth siarad am pam ei fod yn dewis gweini Cig Oen Cymru yn ei fwyty, dywedodd Nathan:
“Rwy’n teimlo’n llawn cyffro yr adeg hon o’r flwyddyn gan fod digonedd o Gig Oen Cymru. Rwy’n ei brynu ar gyfer y bwyty gan fy nghigydd lleol, felly rwy’n gwybod pwy sydd wedi ei gynhyrchu. Rwy’n hyderus ei fod wedi’i fagu gyda gofal a sylw penodol i’r manylion ac angerdd mae ffermwyr yn ei roi ynddo – gallwch flasu’r gwahaniaeth.
“Rwy’n teimlo’n sicr fy mod yn prynu cynnyrch eithriadol ac mae’r ffaith ei fod wedi’i gynhyrchu heb fod ymhell o garreg fy nrws yn fantais enfawr i mi a’m gwesteion yn y bwyty.
“Mae Cig Oen Cymru yn hawdd i’w baratoi, yn flasus ac yn gallu cynnwys llawer o flasau felly mae bob amser yn ddewis yn fy mwyty. Bydd y dosbarthiadau meistr sydd i ddod yn dangos pam ei fod yn cynnig ei hun yn wych o brydau bob dydd i goginio i eraill a sut y gallwch ddod yn arbenigwr ar ei goginio gartref.”
Bydd y dosbarthiadau meistr yn cael eu rhyddhau ar sianeli digidol Cig Oen Cymru dros y misoedd nesaf, ac maent yn ffordd wych o ehangu sgiliau coginio cogyddion cartref a’r rhai sy’n dwlu ar fwyd.
Wrth siarad am yr ymgyrch sydd i ddod, ychwanegodd Laura Pickup, Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau Hybu Cig Cymru:
“Rydym wrth ein bodd yn rhoi ffermwyr ar flaen y gad ac yn ganolog i’n hymgyrch sydd ar ddod. Mae’n ffordd wych o ddangos sut mae eu harbenigedd, eu gwaith caled a’u hymroddiad yn allweddol i gynhyrchu cynnyrch o’r safon uchaf sy’n cael ei barchu ar draws y byd.
“Nid yn unig hynny, ond fel mae digwyddiadau byd-eang wedi dangos i ni yn fwy diweddar, mae’n hanfodol bwysig ein bod yn cynhyrchu cymaint o’n bwyd ein hunain â phosibl, ac mae amodau amgylcheddol Cymru yn golygu ein bod yn un o’r lleoedd mwyaf cynaliadwy yn y byd i cynhyrchu cig oen o’r safon uchaf.”