Mae’n werth ymweld â’ch siop gigydd lleol lle gallwch gael bargeinion gwych yn ogystal ag awgrymiadau a chyngor. Dyma rai o’n hawgrymiadau gorau i’ch helpu i wneud y gorau o’ch taith i’r cigyddion.
Swmp brynu
Os oes gennych ddigon o le yn eich rhewgell, mae’n werth prynu hanner cig oen a’i rewi mewn darnau unigol. O hanner cig oen, gallwch ddisgwyl ysgwydd cig oen, rag cig oen, coes cig oen, gwddf a golwythion. Gallech ofyn i’r cyflenwr dorri’r darnau hyn yn ddarnau llai e.e. y goes yn 2 i 3 darn, a fydd yn gwneud i’r cig fynd ymhellach. Gall cynlluniau bocsys cig hefyd fod yn rhatach na phrynu swmp mewn archfarchnad.
Pryd i un?
Os nid oes llawer o le yn eich rhewgell i storio cig dros ben, eich siop gigydd leol yw’r lle delfrydol i brynu meintiau llai o gig pan fyddwch ei angen. Gallwch hefyd brynu meintiau bach o gig mewn archfarchnadoedd.
Toriadau cost isel
Gwddf Cig Oen Cymru
Mae ffiledau gwddf heb asgwrn yn wych wedi’u marinadu ar gyfer cebabs, wedi’u sleisio’n denau ar gyfer prydau tro-ffrio neu wedi’u torri’n giwbiau mân ar gyfer cyris.
Y Fron Cig Oen Cymru
Darn cymharol rad o gig oen sy’n cael ei ddefnyddio orau mewn stiw, neu mae’n aml yn cael ei ddiesgyrnu, ei stwffio, ei rolio a’i goginio’n araf. Fel arfer, caiff ei dynnu i wneud briwgig
Brisged Cig Eidion Cymru
Er bod modd i chi brynu’r darn hwn ar yr asgwrn, fel arfer bydd yn cael ei dynnu oddi ar yr asgwrn a’i rolio’n barod i’w rhostio’n araf neu bot-rostio.
Cynffon Cig Eidion Cymru
Yn Saesneg oxtail – cadarn o ran blas ac ansawdd. Yn gofyn am ddulliau coginio araf a llaith gan arwain at gig tyner iawn.
Palfais a Sbawd Cig Eidion Cymru
Mae’r darn hwn o gig yn weddol goch ac o ansawdd uchel. Mae’n cael ei dynnu oddi ar yr asgwrn ac yn cael ei werthu fel stecen balfais a phalfais wedi’i disio. Yn addas ar gyfer brwysio, stiwio ac yn rhagorol i lenwi pasteiod.
Dewch o hyd i’ch siop gigydd Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru agosaf yma.