Mae Cig Eidion Cymru mor hyblyg, ond bydd deall cyfansoddiad cig yn eich helpu i ddewis y dull gorau o goginio ar gyfer darn penodol. Mae cig sydd wedi’i aeddfedu am gyfnod hirach yn tueddu i fod yn dywyll ac yn gadarn ac mae’n llawn blas. Gall lliw y cig neu’r braster amrywio, ond nid yw hyn yn effeithio ar ansawdd y blas. Mae Cig Eidion Cymru ar gael yn helaeth mewn siopau cigyddion, siopau fferm ac archfarchnadoedd. I baratoi, coginio a mwynhau Cig Eidion Cymru ar ei orau, dilynwch ein hawgrymiadau isod.
- Sicrhewch fod y cig ar dymheredd yr ystafell cyn ei goginio gan y bydd yn coginio’n fwy cytbwys yr holl ffordd drwyddo. Bydd hefyd yn coginio’n gyflymach ac yn colli llai o leithder, gan ei gadw’n frau ac yn suddlon.
- Dewiswch ddarnau sy’n gweddu orau I’r pryd dan sylw. Mae darnau sydd ar yr asgwrn yn yn dargludo gwres ac yn ychwanegu blas, tra bydd gan darnau heb esgyrn haen o fraster dros ei wyneb fel arfer, a fydd yn toddi I ychwanegu blas a chadw’r darn yn suddlon.
- Os ydych yn rhostio darn o gig eidion neu’n ffrio/grilio stecen, gorffwyswch y cig cyn ei weini gan ei fod yn caniatau I ffibrau’r cig ymlacio a’r sudd I ddosbarthu’n gyfartal felbod y cig yn suddlon ac yn frau.
- Mae cynnwys brithder braster uchel fel arfer yn dangos bod y braster wedi’I ddosbarthu’n gyfartal drwy’r cig ac yn ychwanegu mwy o flas.
- Paratowch eich marinâd o flaen llaw, yn enwedig gyda darn mwy called, gan ei fod yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Bydd marinade cig eidion am oriau neu fwy yn ei dyneru ac yn rhoi mwy o flas iddo.
- Mae olew ddi-flas a niwtral fel olew blodyn haul, llysiau a hadau rêp yn gweithio’n dda wrth ffrio cig eidion ac mae’n ddoeth rhoi olew ar y cig cyn ei goginio.
- Sesnwch cyn coginio – os ydych yn ychwanegu halen, coginiwch ar unwaith gan y gall dynnu lleithder o’r cig allan, gan ei wneud yn galetach. Fodd bynnag, mae’n well gan lawer hefyd sesno eu stêcs ar ôl coginio.
- Mae darnau brau o gig eidion yn fwy addas ar gyfer coginio cyflym, e.e stecen ffiled, syrlwyn, ffolen, llygad yr asen, sbawd frith ac ati.
- Ar gyfer dulliau coginio araf, defnyddiwch ddarnau fel cig eidion I’w frwysio, coes las, bochau, cynffon ych a brisged.
- Defnyddiwch thermomedr cig os ydych eisiau gwirio’n gywir a yw’r cig wedi’I goginio at eich dant.
Y 10 cynhwysyn gorau gyda chig eidion
Gall Cig Eidion Cymru serennu mewn amrywiaeth o brydau a bwydydd. Beth am fod yn greadigol gyda pherlysiau a sbeisys, confennau, sawsiau a llysiau! Dyma ambell beth sy’n gweddu’n berffaith i Gig Eidion Cymru. Mae llawer mwy ar gael, felly byddwch yn greadigol!
Mwstard
Marchruddygl
Wasabi
Teim
Grawn pupur
Coeden Anis
Gwin Coch
Sinsir
Brocoli
Madarch
Cegin Hang Fire
Dechreuodd Samantha Evans a Shauna Guinn Hang Fire Southern Kitchen fel stondin fwyd stryd barbeciw mewn arddull De UDA yng Nghaerdydd, cyn agor bwyty ym Marri a oedd yn dibynnu’n llwyr ar gynnyrch ffres, moesegol ac hefyd yn cynnig clasuron bwyd Louisiana gan ddefnyddio gril Parrilla yr Ariannin a adeiladwyd yn arbennig iddyn nhw. Ers cau’r bwyty yn 2021, mae’r ddwy nawr yn canolbwyntio ar rannu eu gwybodaeth â bwydwyr eraill, yn ogystal â gwneud ymddangosiadau teledu rheolaidd, cynnig profiadau bwyta preifat ac ysgrifennu ryseitiau, i enwi ond ychydig o’r pethau y maent yn eu gwneud! Dyw cynnyrch o safon ddim yn ddieithr iddyn nhw (edrychwch ar eu rysáit Tagine Cig Oen Cymru) ac mae’n hen bryd i Gig Eidion Cymru gael ei goginio ar y gril!
Gwyliwch Samantha a Shauna yn coginio stecen Picañha a sawsiau a chonfennau gwych fel chimichurri, chermoula a harissa coch i fynd gyda hi. Daw Picañha o ran frau iawn y ffolen a dyma’r cig a ffefrir ar gyfer ‘churrasco’ Brasilaidd – cig eidion wedi’i grilio. Mae’r darn yn dod yn fwyfwy poblogaidd mewn siopau cigyddion ac archfarchnadoedd, felly gellir ei fwynhau gartref yn eich churrascaria eich hun!