Mynd i'r cynnwys

Coes Cig Oen Cymru gyda chnau coco, tsili a choriander

Ingredients

  • 1 goes Cig Oen Cymru PGI, heb yr asgwrn
  • 400ml tun llaeth cnau coco, isel ei fraster
  • 2 tsili coch, heb yr hadau ac wedi eu torri’n fân
  • 2 ewin garlleg, wedi eu malu
  • Coriander ffres, wedi ei dorri’n fras
  • 1 leim, y sudd a’r croen wedi ei ratio

50
Cooking Time
10
Prep Time
5+
Serves
  1. Tynnwch y llinynnau a gwnewch y cig oen yn fflat. Rhowch y goes cig oen mewn dysgl fas ac ychwanegwch gynhwysion y marinâd - cyfunwch nhw gyda'i gilydd yn drwyadl, gorchuddiwch y ddysgl a'i rhoi yn yr oergell am awr.
  2. Tynnwch y cig o'r marinâd a rhowch sgiwerau metal yn gris-groes drwy'r cig i'w gadw'n fflat.
  3. Coginiwch ar farbeciw gyda chaead - gosodwch yn fflat ar grid y barbeciw (ddim yn rhy agos at y glo) gan droi'n aml am tua 40-50 munud.
  4. Neu, rhowch y cig yn syth ar y silff mewn ffwrn wedi ei thwymo'n barod ar 180°C / 160⁰C ffan / Nwy 4-5 am tua 40-50 munud nes bod y cig yn frown ar y tu allan ac ychydig bach yn binc yn y canol. Cofiwch roi tun rhostio oddi tano i ddal y diferion.
  5. Cymerwch y marinâd sydd dros ben a berwch yn dda nes ei fod wedi tewychu ychydig - tua 5 munud, ac arllwyswch hwn dros y cig oen. Gweinwch gyda llysiau Tsieineaidd wedi eu tro-ffrio.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025