facebook-pixel

Coginio Campus gyda Chig Oen Cymru: Gwledd Cig Oen Cymru gyda Bab Haus

Gor 24, 2024

Rydyn ni wedi bod ar daith goginio gyda chwech o gogyddion mwyaf dawnus Cymru i greu amrywiaeth o ryseitiau Cig Oen Cymru anhygoel sy’n arddangos ei flas rhagorol, ei ansawdd a’i botensial creadigol. Rhoesom y dasg i bob un o’r cogyddion – sydd i gyd yn dod o gefndiroedd coginio a diwylliannau gwahanol iawn – i greu ryseitiau Cig Oen Cymru hyfryd a fyddai’n ysbrydoli cogyddion cartref i arbrofi gyda Chig Oen Cymru o gysur cartrefu eu hunain. Y canlyniad? Casgliad anhygoel, amrywiol o’r ryseitiau Cig Oen Cymru gorau (yn ein barn ni!) sydd ar gael!

Behind the scenes shot of Leyli cooking a Welsh Lamb dish at Bab Haus' kitchen in Newport Market

 

Un o’n hoff aros-fannau ar hyd ein taith goginio oedd cegin fwyd stryd Bab Haus ym Marchnad Casnewydd, ac yma y cwrddon ni â’r cogydd a pherchennog, Leyli Homayoonfar. Cafodd Leyli, a ganwyd yng Nghaerdydd, ei magu yn aelwyd Iran-Gymreig, lle’r oedd bwyd yn ganolog i lawer o’i bywyd teuluol. Wedi’i hamgylchynu gan gogyddion gwych a chyfoeth o wahanol fathau o fwydydd, gyda phrydau o Bersia yn cael eu mwynhau yn rheolaidd yn y cartref, dechreuodd cariad Leyli o goginio o oedran ifanc iawn.

Ar ôl gweithio mewn ceginau proffesiynol yng Nghaerdydd a Llundain am bron i ddau ddegawd – gan gynnwys bwytai o safon uchel, ysgol goginio Jamie Oliver a datblygu ryseitiau ar gyfer rhai fel Waitrose a ‘Borough Market’, dychwelodd Leyli i Gymru i ymgymryd â’r byd bwyd stryd gynyddol. Ymlaen i’r presennol, ac mae gan frand Bab Haus Leyli bellach safleoedd ar hyd a lled de Cymru, gan gyflwyno troeon ffres a modern i glasuron Tex-Mex sy’n cymylu’r ffin rhwng bwyta mewn bwyty a gwledda bwyd stryd.

I Leyli, mae defnyddio cynnyrch lleol lle bynnag sy’n bosib yn hollbwysig, ac mae’n cefnogi Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn falch yn ei holl fwytai.

“Rwyf bob amser yn defnyddio Cig Oen Cymru, yn y bwyty neu gartref, yn syml oherwydd, yn fy marn i, dyma’r cig oen gorau yn y byd. Mae’r ansawdd a’r blas a gewch yn eithriadol.”

Bab Haus Welsh Lamb shank recipe shot

Yn ystod ein hymweliad, gwnaeth Leyli ein trin i nid un, ond dwy rysáit Cig Oen Cymru flasus. Yn gyntaf, fe wnaeth hi ail-greu rysáit unigryw Bab Haus – Tacos Birria gydag ysgwydd Cig Oen Cymru wedi’I fygu. Yn llawn blas, mae’r pryd hwn yn werthwr gorau yn y bwytai – ac yn bleser llwyr! Cawsom hefyd flasu un o hoff ryseitiau Leyli – Ghormeh Sabzi, pryd cenedlaethol Iran. Stiw Persaidd persawrus a chalonnog, mae hwn yn bryd gwych i’w fwynhau gyda theulu a ffrindiau, gan ganiatáu i bawb fwynhau a phrofi blasau gwych Cig Oen Cymru gyda’i gilydd.

O blasau traddodiadol y Dwyrain Canol i wleddoedd Tex-Mex blasus, aeth Leyli â ni ar daith fyd-eang o flasau mewn un prynhawn yn unig – gan arddangos amlbwrpas-rwydd ac ansawdd eithriadol Cig Oen Cymru.

 

Angen mwy o ysbrydoliaeth? Ewch i’n tudalennau ryseitiau am fwy o ryseitiau blasus sy’n arddangos blas unigryw a rhagorol Cig Oen Cymru.

Share This