Gallwch chi goginio bron unrhyw beth ar y barbeciw, ond mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn rhagori.
I’ch helpu i gael y gorau o’ch barbeciw, rydyn ni wedi llunio cyngor coginio campus ac wedi ychwanegu ryseitiau blasus i chi brofi eich sgiliau ar y griliau!
P’un a ydych chi’n ddechreuwr llwyr, neu’n giamster ar y gril, mae rhywbeth yma i bawb.
Felly byddwch yn barod i gael barbeciw bendigedig – unrhyw dro, bob tro!
Cyngor campus ar gyfer barbeciw perffaith
Rydych chi wedi cyhoeddi eich bod chi’n cael barbeciw ac mae’r barbeciw wedi dod allan o’i gartref gaeafgysgu. Felly beth nesaf? Gwyliwch ein fideo i gael awgrymiadau ar sut i greu argraff gyda’ch barbeciw.
Yr offer hanfodol ar gyfer barbeciw llwyddiannus
Does neb eisiau colli darn blasus o gig rhwng y griliau, felly mae’n bwysig cael yr offer cywir. Gallwch chi ymestyn oes eich offer barbeciw trwy ei gynnal a’i gadw a gwneud yn siŵr ei fod yn lân.
- Yn gyntaf, bydd angen barbeciw arnoch! Nwy, trydan neu olosg traddodiadol
- Menig da, cadarn. Dewch o hyd i fenig cryf er mwyn coginio’n gyfforddus
- Ffedog sy’n gwrthsefyll gwres : peidiwch â difetha eic dillad haf
- Offer â dolenni hir: fel gefel a ffyrc
- Thermomedr cig: I ddarllen tymheredd yn gyflym ac yn gywir
- Byrddau torri: defnyddiwch hai ar wahân ar gyfer bwydydd amrwd a bwydydd wedi’u coginio
- Platiau a thaclau coginio: defnyddiwch hai ar wahân ar gyfer bwydydd amrwd a bwydydd wedi’u coginio
Gwleddoedd barbeciw blasus
Tywydd braf… diwrnod o haf… beth sy’n coginio ar eich barbeciw chi?
Prydau perffaith Cig Oen Cymru
Mae Cig Oen Cymru yn serennu ar y barbeciw. Gall gario llawer o flasau, felly cyn iddo daro’r gril, mae’n ddelfrydol wedi’i farinadu. Gallwch chi goginio byrgyrs neu olwythion yn syth ar y gwres, neu bydd coes neu ysgwydd yn coginio’n araf ar wres anuniongyrchol. Pa bynnag ffordd rydych chi’n ei goginio, bydd yn flasus iawn. Dyma ein hoff ryseitiau barbeciw i chi roi cynnig arnyn nhw.
Cebabs Cig Oen Cymru gyda coucous ffeta a llysiau’r haf wedi’u golosgi
Byrgyrs Cig Oen Cymru gyda ffeta
Ryseitiau rhagorol Cig Eidion Cymru
Pa farbeciw gwerth ei halen sydd heb arddangosfa o fyrgyrs cig eidion yn coginio’n braf arno? O stêcs syfrdanol a byrgyrs bendigedig i frisged ffantastig a salad sitrws – dylai ein ryseitiau barbeciw Cig Eidion Cymru danio eich dychymyg. Rydyn ni hyd yn oed wedi cynnwys ryseitiau ar gyfer plant sy’n gwrthod bwyta llysiau!
Byrgyrs Cig Eidion Cymru wedi’u malu gyda winwns crensiog tenau
Koftas Cig Eidion Cymru gyda llysiau cudd