I gyd-fynd â’r tymor Cig Oen Cymru newydd, rydyn ni wedi diweddaru ein gwefan fel ei bod yn haws i chi fynd o’i chwmpas, rhoi llawer mwy o gyngor gwych gan gogyddion, cigyddion ac arbenigwyr eraill i chi ac yn bwysicach fyth wrth gwrs, rhoi hyd yn oed mwy o ryseitiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru blasus i chi eu mwynhau.
Dewch gyda ni ar daith o gwmpas ein gwefan ar ei newydd wedd:
Yn gyntaf, dewch i weld ein hardal iechyd newydd ble gallwch chi ddarllen am sut y gall cig coch fod yn rhan hanfodol o ddiet cytbwys. Yn yr ardal hon, rydyn ni’n cynnig cyngor i chi ar goginio cig coch yn iach wrth inni dyrchu’n ddyfnach i werth maethol cig coch fel rhan o’ch diet.
Yn ail, rydyn ni wedi gwneud ein hadran Clwb Cigyddion yn fwy amlwg er mwyn helpu tynnu sylw at rôl ein cigyddion lleol wrth hyrwyddo Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. Dyma’r lle i ddysgu am y darnau gwahanol o gig oen a chig eidion, sut i gael y gorau o’r darnau hyn yn eich prydau yn ogystal â dod o hyd i fanylion aelodau lleol y Clwb Cigyddion.
Ond nid dyma’r cyfan rydyn ni wedi ei wneud ar gyfer ein cigyddion campus. Rydyn ni hefyd wedi creu sianeli cyfryngau cymdeithasol yn bwrpasol i ddangos eu gwaith anhygoel a chynnig cyfle i chi ennill gwobrau gwych mewn cystadleuthau rheolaidd. Dilynwch ni nawr ar Facebook ac Instagram.
Yn olaf, dyma gyflwyno ein hadran ryseitiau ar ei newydd wedd. Dyma’r lle i gael ysbrydoliaeth am ryseitiau ar gyfer unrhyw achlysur, o swperau moethus gyda theulu a ffrindiau i brydau hawdd a chyflym i’w paratoi ar ôl diwrnod prysur ganol wythnos. Byddwn ni’n ychwanegu ryseitiau newydd sbon yn rheolaidd felly cofiwch ddod ‘nôl yn aml a chofrestru ar gyfer ein cylchlythyr Teulu Cig Oen Cymru er mwyn cael mynediad cynnar at unrhyw gynnwys newydd.
Mwynhewch ein safle ar ei newydd wedd!