Mae ein taith goginio yn parhau gyda thaith i Bontcanna – un o faestrefi mwyaf ffasiynol Caerdydd. Yma y cawn gwrdd â’r Cogydd Tommy Heaney yn ei fwyty o’r un enw, Heaneys, sydd mewn lleoliad cyfleus drws nesaf i fwyty arall Tommy, Uisce (ynganu ish-ka) – bar gwin ac wystrys bendigedig. Wedi’i agor ym mis Hydref 2018 gan Tommy a’i bartner, Nikki, mae Heaneys yn dod â phrofiad bwyta hwyliog, hamddenol a hygyrch i galon Caerdydd. Gan ganolbwyntio ar gyrchu’r cynhwysion lleol mwyaf ffres, mae bwydlen Heaneys yn arddangos danteithion tymhorol, gyda llawer o’r cynhwysion yn cael eu tyfu yn eu ‘Gardd Gogydd’ eu hunain.
Ganed angerdd Tommy am goginio yn 14 oed, pan arferai weithio ym mwyty ei ewythr yn America yn ystod gwyliau’r ysgol. Wedi’i gyffroi gan natur gystadleuol ond creadigol y gegin, gosododd Tommy’r nod iddo’i hun o ddod yn Brif Gogydd, a chyflawnodd hyn yn gyflym. Wedi dysgu ei hun, heb unrhyw uchelgais i gofrestru mewn coleg arlwyo, aeth Tommy ymlaen i deithio’r byd, gan hogi ei sgiliau a chael profiad ymarferol amhrisiadwy ar hyd y ffordd. O weithio mewn bwytai arobryn yn Awstralia i deithio Gwlad Thai a darganfod blasau a thechnegau newydd, dychwelodd Tommy i’r DU lle bu’n hyfforddi o dan yr enwau mwyaf yn y byd coginio gan gynnwys arbenigwr y ‘Great British Menu’, Richard Corrigan, David Everitt-Matthias ac Ollie Dabbous.
Wrth edrych ymlaen at y presennol, ac mae Tommy bellach wedi perffeithio ei arddull coginio unigryw o seigiau cyfoes, technegol sydd wedi’u paru’n ôl gyda ffocws ar y gwastraff lleiaf posibl o gynhwysion. Mae ei angerdd am ddefnyddio cynhwysion o’r ansawdd gorau yn ei goginio yn un o’r rhesymau pam na allem aros i weithio gydag ef a phan ddaw i’r fater o gig oen, i Tommy, mae’n rhaid iddo fod yn Gymreig.
“Cig Oen Cymru yw’r gorau yn y byd.”
Fel rhan o’n cyfres o ddosbarthiadau meistr, rhoesom y dasg i chwe chogydd i greu pryd o Gig Oen Cymru a fyddai’n ysbrydoli cogyddion cartref i arbrofi gyda Chig Oen Cymru yn eu cartrefi eu hunain, a chyflwynodd Tommy bryd Cig Oen Cymru anhygoel – yn berffaith ar gyfer partïon swper a chynulliadau soffistigedig. Mae ei rac o Gig Oen Cymru wedi’i choginio ar y barbeciw gydag iogwrt, asbaragws barbeciw a thatws braster cig oen yn syfrdanol, ac yn sicr o wneud argraff ar y gwesteion cinio mwyaf craff!
Mae’r cogydd Tommy Heaney yn hyrwyddwr enfawr dros goginio dros fflamau ac mae’n credu bod “cig bob amser yn well wedi’i goginio ar y barbeciw”, a dyna pam y defnyddiwyd y broses i greu’r pryd blasus hwn. Ym marn Tommy, mae coginio dros fflamau
“yn rhoi blas myglyd hyfryd ond hefyd yn tyneru’r cig. Roedd y rysáit hon yn berffaith ar gyfer y barbeciw, a gellir coginio bron unrhyw doriad dros fflamau i roi’r dyfnder ychwanegol hwnnw o flas.”
Darganfyddwch rac barbeciw Cig Oen Cymru flasus y Cogydd Tommy Heaney yma a byddwch yn greadigol yn y gegin!