Mynd i'r cynnwys

Arallgyfeirio a dathlu menywod mewn amaeth: Dewch i gwrdd ag Anna Jones

Ffermwraig o ucheldiroedd canolbarth Cymru yw Anna Jones, ac mae ganddi safbwynt meddylgar ac ymarferol ar ffermio da byw cynaliadwy. Magwyd Anna ar fferm defaid a chig eidion ei theulu a dychwelodd yn ei 20au canol, ar ôl treulio dros ddegawd yn dilyn ei hangerdd dros weithio gyda cheffylau. Mae hi bellach yn ffermio ochr yn ochr â'i thad ac yn raddol yn cyflwyno arferion mwy cynaliadwy a llywiedig o ddata i'r fferm. Mae hi hefyd yn archwilio pori cymysg a gwelliannau i reoli pridd a slyri. Fe wnaethom sgwrsio ag Anna i ddysgu mwy am ei stori ac i weld beth sydd nesaf i'r fferm deuluol hon.

   

Gosod yr olygfa

Mae fferm deuluol Anna yn gartref i tua 500 o ddefaid a 100 o wartheg. Mae'r praidd yn cynnwys mamogiaid mul Cymreig, sy'n cael eu bridio â hyrddod Charolais neu Texel a buches sugno o wartheg. Mae'r fferm tua 650 troedfedd uwchben lefel y môr - yn ddigon uchel i gael ei dosbarthu fel fferm ucheldir. Er bod ffermydd ucheldir fel arfer yn gysylltiedig â ffrwythlondeb pridd is ac amodau llymach, mae Anna yn ddiolch i'w thad am ei ymdrechion i wella amodau ar y fferm:  

 
“Mae fy nhad wedi gweithio’n galed iawn i wella ansawdd y glaswellt ac ansawdd y pridd ar y fferm, felly er ein bod ni ar dir uchel, dydyn ni ddim yn cael trafferth gyda [ansawdd y glaswellt], diolch i waith caled fy nhad.”
 
Gofalwyd am y tir gan dad Anna am flynyddoedd lawer, ac mewn gwirionedd, nid oedd hi byth yn bwriadu dychwelyd i fferm y teulu. Mae Anna yn cofio ei bod hi bob amser ar y fferm wrth dyfu i fyny, ond bod hyn yn bennaf oherwydd ei hangerdd go iawn – ei cheffylau! Er ei bod hi’n mwynhau amser wyna, a gyrru o gwmpas ar y 'Gator' wrth ymyl ei thad, nid oedd cymryd drosodd busnes y fferm erioed yn rhywbeth yr oedd hi’n ei ragweld. Pan ofynnwyd iddi pam, mae Anna’n myfyrio:  

“Ar y pryd, doeddwn i byth yn gweld fy hun yn ei wneud. Ar y pryd, doedd neb fel fi yn ei wneud.”
 
Fodd bynnag, ar ôl treulio blynyddoedd lawer yn dilyn ei hangerdd o weithio gyda cheffylau, dychwelodd Anna i fferm y teulu yn y pen draw - penderfyniad a oedd yn seiliedig ar y ffaith nad oedd ei thad yn mynd yn iau, ac nad oedd gan ei brawd iau ddiddordeb mewn amaethyddiaeth. Gan fod Anna yn awyddus i gadw'r fferm o fewn y teulu, penderfynodd roi cynnig arni - wrth dal i gadw ei cheffylau annwyl fel "hobi".
 
Mae ffermio ochr yn ochr â’i thad wedi bod yn brofiad hynod o wobrwyol, gydag Anna yn sylwi:  

“Mae Dad wedi bod yn wych ac mae o wedi fy arwain a dangos y rhaffau i mi, a dangos i mi’r ffordd y mae o'n gwneud pethau. Weithiau, rwy’n gwneud pethau yn y ffordd rwyf i eisiau – y rhan fwyaf o’r amser mae’n mynd i lawr yn iawn ond rydyn ni yn gwrthdaro ar adegau. Ond, rydyn ni 10 mlynedd i mewn nawr felly mae’n mynd yn iawn!”
   

Merched mewn amaeth

Wrth sôn am y rhesymau pam nad oedd hi'n ystyried ffermio fel dewis bywyd, dywedodd Anna nad oedd yn rhywbeth yr oedd hi'n ei weld llawer o fenywod, os o gwbl, yn ei wneud pan oedd hi'n tyfu i fyny.  


“Pan oeddwn i'n iau, doeddwn i ddim yn gweld unrhyw un fel fi yn ffermio - fy nhad a'n gweithwyr oedd e bob amser, ac roedd ein holl gymdogion yn ddynion hefyd. Y ffermwr a'i wraig oedd e pob amser."
 
Fodd bynnag, mae amseroedd wedi newid ac, yn gyffredinol, mae llawer mwy o fenywod ar flaen y gad ym myd amaethyddiaeth heddiw. Mae menywod yn lleisio eu barn ac yn gwneud eu hunain yn fwy gweladwy mewn diwydiant sydd fel arfer yn cael ei ddominyddu gan ddynion. Dywed Anna;  

“Mae’n braf gallu gweld mwy ohonom ni. Pan welwch chi’ch hun mewn eraill, mae’n helpu i ysbrydoli ac yn dod â phawb at ei gilydd.”
 
Mae hyn yn rhywbeth sy'n arbennig o bwysig i Anna, gan fod ganddi ferch ifanc ei hun. Er ei bod hi'n awyddus i bwysleisio nad oes unrhyw bwysau o gwbl ar ei merch i gofleidio busnes y teulu, mae Anna wrth ei bodd bod gan ei merch ddigon o fodelau rôl fenywaidd i edrych i fyny atynt - gyda'i mam yn bwysicaf! Wrth siarad am y posibilrwydd y bydd ei merch yn dilyn ôl troed ei mam a'i thaid, mae Anna'n sylwi:  

“Hoffwn feddwl y bydd hi'n dilyn ein hôl troed ni. Ein nod yw paratoi'r ffordd iddi gamu i mewn, fel y gwnaeth fy nhad i mi. Caniataodd ei waith gwych i mi gamu i mewn a chymryd yr awenau.”
   

Felly, beth sy nesa?

Mae gan Anna a'i theulu lawer o bethau cyffrous ar y gweill, gyda chynlluniau i ddechrau gwerthu eu blychau cig oen a chig eidion eu hunain yn uniongyrchol o'r fferm - hyd yn oed yn meddwl am werthu ar-lein yn y dyfodol agos. Mae Anna hefyd yn bwriadu dod â mwy o foch i'r fferm er mwyn gallu darparu blychau porc yn y dyfodol, gan roi dewis ehangach i'r defnyddwyr.
 
Mae cynlluniau ehangach hefyd yn cynnwys agor y fferm i'r cyhoedd, gan ganiatáu i ddefnyddwyr ddysgu mwy am o ble mae eu bwyd yn dod. Gan wneud defnydd da o gefndir trawiadol ei gŵr mewn arlwyo a lletygarwch, ar ôl rhedeg bwytai ledled y wlad dros y blynyddoedd, mae Anna yn bwriadu cynnig profiadau bwyta ar y fferm, gan ddefnyddio cynnyrch lleol a thymhorol i ysbrydoli defnyddwyr i siopa'n lleol. Dywed Anna:  


“…bydd yn gyffrous iawn rhannu'r fferm gyda'r cyhoedd a dangos iddyn nhw o ble mae eu bwyd yn dod a dangos iddyn nhw beth allan nhw ei wneud ag ef.”
 
Bydd hyn yn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn rhestr drawiadol o ddigwyddiadau a chyfleoedd y mae fferm Anna yn eu cynnig i'r cyhoedd, gan eu bod eisoes yn cynnig digwyddiadau 'Wyna'n Fyw' yn ystod tymor wyna i'r cyhoedd ddod a gweld popeth sy'n gysylltiedig ag wyna. Mae yna hefyd lety gwyliau ar y safle lle gall gwesteion aros ac archwilio'r nifer o lwybrau a llwybrau sydd wedi'u hagor ar y fferm, yn benodol ar gyfer eu gwesteion.
 
Yn ogystal â'r holl gynlluniau arallgyfeirio cyffrous hyn, mae Anna hefyd yn awyddus i adeiladu ar lwyddiannau arferion gwell ar y fferm, sydd wedi helpu i wella iechyd y praidd a rheolaeth tir pori. Mae gwneud newidiadau sy'n seiliedig ar ddata wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i iechyd eu hŵyn, ac yn y pum mlynedd nesaf, mae Anna yn gobeithio adeiladu ar hyn, gan gynyddu niferoedd y gwartheg ynghyd â chanolbwyntio ymhellach ar ansawdd y praidd defaid sydd ganddynt.
 

Ni fedrwn aros i weld cynlluniau Anna yn datblygu!

Mwy fel hyn


© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025