Cyngor tanbaid gan Hywel Griffith…
Mae Hywel Griffith, prif gogydd bwyty Beach House, Oxwich yn ffan enfawr o Gig Oen Cymru. O ran coginio cig oen ar y barbeciw (neu mewn ysmygwr), mae Hywel yn credu ei fod yn ‘benthyg ei hun yn hollol berffaith’. Mae ysgwydd neu frest yn fwyaf addas ar gyfer coginio hirach ac arafach, tra gellir coginio’r pen gorau, rag cig oen a choesau yn ganolig-gwaedlyd – yn gyflym a thros wres uchel. (Mae’n well gan Hywel goginio coesau’n ganolig-da.) Gwyliwch Hywel yn creu’r Ysgwydd Cig Oen Cymru danbaid yma gydag ychydig o ysbrydoliaeth gan Fôr y Canoldir. Mwynhewch!
Grilio gwych! HILLS yn rhannu ambell gyfrinach danbaid…
Y gyfrinach i fyrgyr da yw ansawdd y cig, a chewch chi ddim gwell ansawdd na Chig Eidion Cymru. Dyna pam mae bwyty byrgyrs HILLS (a gyrhaeddydd rownd derfynol Gwobrau Byrgyr Cenedlaethol y DU) yn defnyddio dim byd ond briwgig Cig Eidion Cymru. Gwyliwch Owain Hill yn creu byrgyr sy’n ddigon da i’w weini mewn bwyty – y darnau o gig eidion a ddefnyddir yn y briwgig, a phwysau a thymheredd pob byrgyr cyn ei goginio sy’n bwysig – o, a bynsen gadarn dda i gofleidio’r byrgyr llawn sudd ‘na!
Byddwch yn feiddgar ar y barbeciw! Chris ‘Flamebaster’ Roberts a Black Axe Mangal sy’n dangos sut…
Os ydych chi eisiau gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol gyda Chig Oen Cymru, rydych chi wedi dod i’r lle iawn. Ymunodd Chris ‘Brenin y Barbeciw’ Roberts (a’n Cig-gennad blaenorol) â’i ffrind a’i gyd-arbenigwr bwyd Lee Tiernan o fwyty Black Axe Mangal yn Llundain i greu cyfres o ryseitiau fideo unigryw gan defnyddio Cig Oen Cymru.
Wedi’u ffilmio yng nghalon Eryri, mae Lee a Chris yn rhannu awgrymiadau coginio mewnol gyda’i gilydd wrth iddyn nhw greu pedair rysáit danllyd, flasus, gyffrous sy’n arddangos Cig Oen Cymru fel nad ydych erioed wedi’i weld o’r blaen.
Gwyliwch mwy o ryseitiau Chris a Lee ar ein sianel YouTube.
Angen mwy o ysbrydoliaeth? Ewch i’n tudalen ryseitiau am lwyth o ryseitiau blasus.