Mae ffermwyr da byw Cymru yn gwybod, os byddwch chi’n gofalu am yr amgylchedd, y bydd yr amgylchedd yn gofalu amdanoch chi. Ers canrifoedd, maen nhw wedi chwarae rhan allweddol wrth greu a chynnal y tirweddau gwledig hardd iawn rydyn ni’n eu hadnabod ac yn eu caru, ac mae eu rheolaeth gynaliadwy wedi helpu i greu amgylchedd gwledig amrywiol sy’n gyfoethog o ran bywyd gwyllt ac yn gyfeillgar i ymwelwyr, diolch i rwydwaith o lwybrau troed a gynhelir gan ffermwyr.
Er bod effaith amaethyddiaeth ar newid hinsawdd yn bwnc llosg iawn ar hyn o bryd, mae’n bwysig cofio bod amrywiadau enfawr yn effaith amgylcheddol gwahanol systemau ffermio ledled y byd, gyda Chymru yn arbennig o addas ar gyfer magu gwartheg a defaid.

Mae gan y ffordd Gymreig o ffermio stori wahanol iawn i’w hadrodd o’i gymharu â rhai o’r systemau dwys a diwydiannol a geir mewn rhannau eraill o’r byd. Gyda safonau uchel o ran hwsmonaeth anifeiliaid a rheoli tir pori, mae ein ffermydd teuluol wedi helpu i warchod ein tirwedd unigryw ers cenedlaethau, a byddant yn parhau i wneud hynny am genedlaethau i ddod.