Gadewch i ni ddechrau gyda’r pos craidd. Bwyta cig coch ai peidio. Yn y bôn, chi sy’n penderfynu beth rydych chi’n ei fwyta, ond yma byddwn yn cyflwyno’r ffeithiau i chi. A’r prif ffaith yw, ydy, mae’n iawn bwyta cig coch. Gellir bwyta cig coch fel Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru fel rhan o ddeiet cytbwys iach. Mewn gwirionedd, os byddwch chi’n dileu cig coch yn llwyr o’ch diet, gallech chi fod yn gwneud cam â chi’ch hun. Mae ansawdd y maetholion mewn cig coch yn benodol yn ei gwneud hi’n haws i’r corff eu defnyddio’n effeithlon. Gallwch chi fwynhau cig coch a chael y gorau ohono os ydych chi’n ei fwyta heb lawer o fraster ac yn gymedrol.
Gwyliwch awgrymiadau a chyngor Sioned yma.
Yn bendant! Mae gwerth maethol cig coch yn drawiadol. Mae’n cynnwys amrywiaeth o faetholion buddiol gan gynnwys protein, brasterau iach, fitaminau a mwynau – pob un yn bwysig ar gyfer swyddogaethau hanfodol yn y corff ac i gynnal iechyd. Er bod cig coch yn cynnwys braster, nid yw’r holl fraster hwn yn afiach. Mae cig coch yn cynnwys llawer o haearn sy’n bwysig i wneud celloedd coch y gwaed, ac os na chawn ni ddigon o haearn, gallwn ni deimlo’n flinedig ac wedi ymlâdd.
Gwyliwch awgrymiadau a chyngor Sioned ar sut i wneud y gorau o gig coch mewn diet iach.
Mae haearn yn fwyn sy’n ofynnol gan y corff ar gyfer sawl rôl wahanol gan gynnwys gwneud celloedd coch y gwaed sy’n cludo ocsigen o amgylch y corff. Os na chawn ni ddigon o haearn rydym ni mewn perygl o ddatblygu anemia diffyg haearn, fydd yn gwneud i ni deimlo’n flinedig, yn wan ac yn bigog. Mae ffynonellau haearn sy’n seiliedig ar anifeiliaid fel cig coch, er enghraifft Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn ffynonellau haearn arbennig o gyfoethog ac mae’n haws i’r corff eu hamsugno. Oeddech chi’n gwybod, er bod bwyta digon o lysiau wyrdd yn beth da, gall bwyta cig coch ochr yn ochr â nhw roi hwb i’ch statws haearn!
Gwyliwch Sioned i gael rhagor o wybodaeth am haearn yn eich diet.
Mae angen protein ar bawb yn eu diet. Mae’n faetholyn hanfodol ac yn annog màs cyhyrau a thwf ac atgyweirio celloedd y corff. Mae cig coch fel Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn hynod gyfoethog mewn protein ac yn cael ei ddosbarthu fel protein cyflawn, gan ei fod yn cynnwys pob asid amino sydd ei angen arnom. Mae hyn yn golygu y gall y corff ei amsugno a’i ddefnyddio’n effeithlon ac yn effeithiol iawn o’i gymharu â ffynonellau protein eraill. Y fantais arall o fwyta bwydydd sy’n llawn protein yw eu bod yn tueddu i wneud i ni deimlo’n fwy llawn na bwydydd sy’n uchel mewn carbohydradau neu fraster. Felly gall cynnwys ffynhonnell protein heb lawer o fraster gyda phryd helpu i leihau teimladau o newyn a lleihau cymeriant ynni cyffredinol. Mae astudiaethau hefyd yn awgrymu, wrth i ni fynd yn hŷn, y gallem elwa o fwyta mwy o brotein oherwydd ei fod yn helpu i leihau’r golled cyhyrau sy’n gysylltiedig â heneiddio.
Gwyliwch Sioned yn esbonio beth mae protein cyflawn yn ei olygu.
Nawr, gadewch i ni fynd i’r afael â’r eliffant arall yn yr ystafell…braster. Mae braster wedi bod yn bwnc trafod yn y cyfryngau ers blynyddoedd a gall fod yn ddryslyd ynglŷn â beth i’w gredu. Y gwir amdani yw bod braster yn rhan hanfodol o’r diet. Mae’n cario fitaminau sy’n hydawdd mewn braster fel Fitamin A, D, E a K ac mae’n ffynhonnell egni. Efallai eich bod hefyd wedi clywed am Omega 3. Mae’r rhain yn fath o asid brasterog hanfodol na all y corff wneud digon ohono, felly mae angen eu cyflenwi gan y diet. Maent yn bwysig i atal clefydau cronig ac ar gyfer iechyd y galon.
Gwyliwch Sioned i’ch helpu i wahaniaethu rhwng y brasterau da a’r brasterau drwg a sut i wneud addasiadau wrth goginio cig coch.
Mae ‘imiwnedd’ yn air sy’n cael ei ddefnyddio llawer yn ddiweddar, felly mae hi mor bwysig ag erioed nawr i ddeall sut i gynnal ein system imiwnedd. Mae angen amrywiaeth o faetholion ar y system imiwnedd er mwyn iddi weithio cystal ag y gall. Mae fitaminau’n hanfodol ar gyfer imiwnedd gan eu bod yn gwneud ac yn atgyweirio’r holl gelloedd yn y corff, ac mae haearn a sinc yn rhan o wneud a chynnal celloedd gwaed gwyn sy’n ymladd haint. Nid yw’n hysbys iawn, ond gall cig coch, yn enwedig cig sy’n cael ei fwydo ar laswellt fel Cig Oen Cymru, gyfrannu at gymeriant Omega 3 sy’n bwysig i’r system imiwnedd trwy wneud a chynnal celloedd gwaed gwyn.
Gwyliwch gyngor Sioned ar gig coch a’ch system imiwnedd.
Gall cig coch, sy’n fwyd protein o ansawdd uchel sy’n llawn maetholion, chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i ddiwallu ein hanghenion maetholion hanfodol drwy gydol ein cylch bywyd. O flynyddoedd twf a datblygiad babandod a phlentyndod hyd at ein swyddogaeth wybyddol a chorfforol fel oedolion hŷn, bydd ein gofynion maeth yn amrywio. Yn ogystal, gall bwyta cig coch yn y maint dogn a argymhellir yn ystod beichiogrwydd gael nifer o fanteision iechyd.
Gwyliwch Sioned yn esbonio manteision bwyta cig coch ym mhob cyfnod o fywyd.
