facebook-pixel

Ffermio adfywiol ac arferion cynaliadwy: Dewch i gwrdd ag Aled Evans

Ebr 23, 2025

Mae Aled Picton Evans yn ffermio mewn partneriaeth â’i frawd, Iwan, ar 500 erw o dir yn Sir Gaerfyrddin, Gorllewin Cymru. Mae’r brodyr yn ffermio’n adfywiol ar system sy’n seiliedig ar laswellt sy’n cynhyrchu Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI. Yn 2021, cafodd y pâr eu cydnabod am eu hagwedd arloesol at ffermio ac fe’u coronwyd yn ‘Ffermwr Cig Eidion y Flwyddyn’ yng ngwobrau Farmer’s Weekly.

Wedi eu magu ar fferm deuluol, mae’r brodyr wedi tyfu i fyny gyda gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o natur, ac fe ysgogodd eu tad yr ethos iddynt, os ydych chi’n gofalu am y tir, bydd y wlad yn gofalu amdanoch chi. Ar ôl cychwyn ar yrfaoedd gwahanol iawn yn wreiddiol, cymerodd y pâr drosodd fferm a oedd wedi cael ei rheoli gan eu modryb, ac roeddent yn frwd dros ddatblygu system ffermio sefydlog, a chynaliadwy y gallent ei hailadrodd flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Fe wnaeth y brodyr sefydlu dri philer busnes; etifeddiaeth a gofalu am yr amgylchedd a’r gymuned, ansawdd o fyw – gweithio dim mwy na 50 awr yr wythnos a chael amser gyda theulu ac, elw – gwneud bywoliaeth o gynhyrchu bwyd o safon. Mae pob un o’r egwyddorion hyn yn hynod o bwysig i’r brodyr, ac mae cadw at bob un ohonynt wedi arwain at fusnes y mae Aled ac Iwan yn hynod o falch ohono.

 

Stori cynaliadwyedd.

Dechreuodd Aled roi prosesau ffermio adfywiol ar waith tua 3-4 blynedd yn ôl, gan ddechrau gyda chynllun pum mlynedd. Gosododd y nod o leihau allbwn artiffisial a defnydd cemegol gan 50% o fewn yr amser hwn, ac o fewn 24 mis llwyddodd i roi’r gorau i ddefnyddio cemegau artiffisial a nitrogen yn gyfan gwbl ar dir pori – gan gyrraedd ei nod ymhell cyn ei gynllun 5 mlynedd.

Rhai enghreifftiau o’r arferion ffermio adfywiol a weithredir gan Aled yw tyfu cnydau glaswellt talach ac yn caniatáu cyfnodau gorffwys hirach rhwng cylchdroadau pori, gan arwain at wreiddiau cryfach a gwell iechyd y pridd. Mae’r brodyr hefyd wedi plannu ystod amrywiol o blanhigion ar y fferm sy’n annog amrywiaeth mewn maetholion yn y pridd ac yn hybu twf iach yn gyffredinol, gyda budd gwrtaith naturiol o anifeiliaid. Mae hefyd yn caniatáu dyfnderoedd gwreiddio gwahanol, sy’n adeiladu mwy o wydnwch yn eu system.

Medd Aled;

“Ein nod yn y pen draw yw cael cymaint o gynnyrch â phosibl o laswellt sy’n cael ei bori, er mwyn sicrhau ansawdd y cynhyrchiad wrth leihau costau… Derbynnir yn gyffredinol mai glaswellt yw’r porthiant rhataf sydd ar gael i ffermwyr da byw yng Nghymru, felly mae’n gwneud synnwyr perffaith i wneud y mwyaf o’i gyfraniad at ddiet ein hanifeiliaid.”

 Mae lleoliad y fferm yn sicrhau bod y tir yn berffaith ar gyfer amaethyddiaeth adfywiol – yn bennaf gan ddiolch i’r glaw trwm y mae’n ei gael sy’n golygu bod llawer o laswellt yn cael ei dyfu! O ganlyniad, mae Aled yn gallu cadw ei wartheg y tu allan am 292 diwrnod o’r flwyddyn, o gymharu â’r cyfartaledd o 6 mis sydd, yn ei farn ef, yn ffactor cyfrannol enfawr wrth greu cynnyrch sy’n blasu’n wych.

 

Cynhyrchu bwyd o safon

Gyda theulu ifanc ei hun, mae Aled wedi dod yn fwy ystyriol o ansawdd y bwyd y mae’n ei fwyta a’i gynhyrchu. Mae dulliau ffermio adfywiol yn helpu i warchod y maetholion sydd yn naturiol yn y pridd, ac mae Aled yn teimlo bod hyn yn caniatáu iddo gwrdd â galw defnyddwyr am gynnyrch mwy cynaliadwy sy’n llawn fitaminau, mwynau a maetholion eraill.

Dywed Aled;

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu cynnydd yn y galw am gynnyrch cynaliadwy gan weithredwyr a defnyddwyr. O ganlyniad, mae nawr yn amser gwych i ffermwyr wneud y mwyaf o’r cyfleoedd amgylcheddol ac economaidd a ddaw yn sgil mabwysiadu amaethyddiaeth adfywiol.”

 

Dyfodol ffermio adfywiol

Gan gydnabod yr anawsterau y mae’r diwydiant amaethyddol yn eu hwynebu ar hyn o bryd, mae Aled yn awyddus i bwysleisio bod y gofod ffermio adfywiol yn hynod gadarnhaol a dyrchafol, a’i fod yn rhoi cyfle i ffermwyr gymryd rheolaeth a gwneud gwahaniaethau cadarnhaol yn y gofod cynaliadwyedd.

Mae Aled yn bwriadu parhau â’i waith tuag at ehangu ei ymdrechion cynaliadwyedd trwy weithredu gwir economi gylchol o fewn y fferm ac mae ganddo gynlluniau i fyrhau cadwyni cyflenwi a thrwy hynny gynyddu tryloywder. Medd Aled;

“Mae’n bwysig sicrhau tryloywder ar draws y gadwyn gyflenwi, ac mae’r berthynas gref sydd gennym ag un o’n partneriaid, Honest Burgers, yn enghraifft wych o sut y gall gweithredwyr weithio gyda’u cyflenwyr i wella ôl troed carbon a safon eu bwydlenni. Rydym eisoes wedi croesawu cogyddion o fwytai enwog i ymweld â’r fferm i arddangos ansawdd Cig Eidion Cymru PGI, gan roi hwb i’r ymwybyddiaeth o ble mae’r bwyd yn dod o, a’r prosesau naturiol o gynhyrchu’r bwyd.”

Mae’r fferm yn cynyddu argaeledd cynnyrch sy’n cael ei ffermio’n adfywiol yn eu hardal leol, gan gynnig cyflenwadau o gynnyrch lleol trwy bartneru gyda chigydd lleol. Ac mae Aled yn awyddus i gael y teulu cyfan i gymryd rhan, gan ddod â’i blant draw ar ddiwrnodau danfoniad, a thrwy hynny hybu’r cysylltiad rhwng pobl ac o ble mae eu bwyd yn dod.

Ni’n methu aros i weld beth sydd nesaf i Aled a’r teulu!

Share This