facebook-pixel

Sut i arbed arian gyda Chig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru

Chw 18, 2025

Gyda chostau byw yn codi, gall gwybod ble i dorri costau a sut i gyllidebu yn unol â hynny fod yn her. Fodd bynnag, dylai ein hiechyd a’n lles fod yn brif flaenoriaeth bob amser.

Mae bwyd maethlon yn hanfodol ar gyfer iechyd da a dylem wastad ymdrechu i fwyta’n dda a phrynu’r bwyd gorau y gallwn ei fforddio.

Trwy addasu’r ffordd rydym yn cynllunio, coginio a siopa ar gyfer ein prydau, mae modd arbed arian ac amser, gan wneud y gorau o fwyd maethlon a blasus yn ein diet fel Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru

6 cyngor campus ar gyfer arbed ychydig o arian (ac amser!) heb golli allan ar y pethau da.

  1. Cynllun prydau penigamp: Cynlluniwch yr hyn rydych yn bwriadu ei fwyta am yr wythnos, gan weithio o amgylch yr hyn sydd gennych yn barod. Prynwch y cynhwysion sydd eu hangen arnoch, a dim byd arall. Pan fyddwch yn prynu cynhwysyn ffres ar gyfer un pryd, defnyddiwch ef eto ar gyfer pryd arall, gan arbed arian a lleihau gwastraff.
  2. Beth sydd yn y cwpwrdd? Archwiliwch eich cypyrddau, oergell a rhewgell yn rheolaidd fel eich bod yn gwybod yn union beth sydd gennych yn barod. Fel hyn, gallwch osgoi prynu eitemau dyblyg! Mae hwn yn weithgaredd arbed arian hanfodol, a bydd yn gwneud cynllunio prydau bwyd a siopa yn llawer haws.
  3. Byddwch yn siopwr craffach: Prynwch eitemau fel corbys, reis a phasta sych gan eu bod yn cadw am fisoedd. Mae ychwanegu corbys at gaserol neu tsili nid yn unig yn ychwanegu maetholion, ond hefyd yn rhoi swmp I’r pryd, gan wneud iddo fynd ymhellach. Gallwch hefyd brynu darnau rhatach o Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru i dorri costau. Ceisiwch beidio â siopa ar stumog wag, a cheisiwch gadw at eich rhestr siopa!
  4. Coginio clyfar: Dewiswch brydau cyflym I’w coginio ar yr hob yn hytrach nag yn y popty, neu defnyddiwch bopty araf neu ffrïwr aer, gan ddefnyddio llai o drydan. Os ydych yn defnyddio’r popty, ceisiwch goginio cymaint o fwyd ar yr un pryd fel nad yw’r gwres yn cael ei wastraffu – mae pobi pryd hambwrdd popeth-mewn-un yn ddelfrydol (a llai o olchi llestri!) a gallwch hyd yn oed goginio pwdin fel crymbl ffwythau ar yr un pryd!
  5. Rhowch gaead arno: Wrth goginio reis, pasta, nwdls, llysiau ac ati, rhowch gaead ar y sosban i’w gael I ferwi’n gynt. Mae sosban frys a ffrïwyr aer hefyd yn offer defnyddiol i gyflymu’r broses, gan ddefnyddio llai o ynni. Gwiriwch lawlyfr y gwneuthurwr bob tro.
  6. Gwnewch ffrindiau gyda’ch rhewgell: Mae coginio swp yn ffordd gwych o arbed arian ac amser. Os ydych chi’n rhy brysur i goginio, mae cael ychydig o brydau rydych chi eisioes wedi’u paratoi a’u rhewi yn llawer iachach I chi, ac yn aml yn rhatach, na chael pryd parod wedi’I brosesu neu tecawê.

AWGRYM

Dadmerwch fwyd dros ben yn drylwyr cyn ei ailgynhesu mewn microdon neu drwy ei adael yn yr oergell dros nos. Ailgynheswch y bwyd nes ei fod yn chwilboeth drwyddo. Dylai bwydydd sy’n cael eu hailgynhesu yn y microdon gael eu troi hanner ffordd drwodd, gan nad yw’r microdon yn gwresogi’n gyfartal. Dylid bwyta bwydydd o’r rhewgell o fewn 24 awr

 

Rhowch gynnig gartref

Gwnewch y gorau o Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru gyda’n ryseitiau blasus. Yma fe welwch brydau pobi hambwrdd popeth-mewn-un, prydau sy’n wych i’w rhewi, prydau gwych ar gyfer y popty araf ac atebion cyflym i’w coginio ar yr hob.

 

Darnau darbodus

 

 

 

 

 

 

Welsh Beef oxtail stew

 

 

 

 

 

Welsh Beef steak and ale pie

 

 

 

 

 

Isel ac araf

 

 

 

 

 

 

Welsh Beef bourguignon

 

 

 

 

 

Slow cooked Welsh Beef brisket in a rich and sticky sauce

 

 

 

 

 

Perffeithrwydd mewn padell

 

 

 

 

 

 

Asian Welsh Beef and noodle salad

 

 

 

 

 

 

Welsh Lamb tikka wraps

 

 

 

 

 

 

Rhyfeddodau ar gyfer y rhewgell

 

 

 

 

Welsh Beef lasagne

 

 

 

 

Welsh Lamb keema curry

 

 

 

 

 

 

 

Angen mwy o ysbrydoliaeth? Ewch i’n tudalen ryseitiau am lwyth o ysbrydoliaeth blasus. 

Share This