Ar ucheldiroedd y canolbarth, mae Emily Jones a’i rhieni yn defnyddio arbenigedd a drosglwyddwyd gan genedlaethau o dreftadaeth ffermio i gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru blasus.
“Beth sy’n gwneud Cig Oen Cymru mor arbennig lan fan hyn yw dyw e ddim yn cael ei wthio, mae’n naturiol iawn. Mae’n byw ar y glaswellt a’r awyr iach.”
Mae’r traddodiad hwn o drosglwyddo gwybodaeth yn parhau hyd heddiw, gydag Emliy yn parhau i ddysgu gan ei thad, ond hefyd yn gweld cyfleoedd newydd i ddatblygu dulliau ffermio mwy modern
“Dwi’n teimlo mod i wedi dysgu lot gan fy nhad, mae e wedi gwneud lot fan hyn a dwi’n gallu gweld lle ‘dyn ni wedi gwella a lle allwn ni wella.”
A rhan o weledigaeth Emily ar gyfer y fferm yw ei helpu i redeg yn fwy naturiol a chynaliadwy. Un o’r ffyrdd maen nhw’n gwneud hyn yw trwy ddefnyddio gwndwn llysieuol.
“Ni’n trio newid yma ar y fferm yng Ngarnwen. Rydym yn defnyddio gwndwn llysieuol fel llyngyr naturiol, ac rydym hefyd yn eu defnyddio i helpu gyda pesgi da byw a’u cael i dyfu’n fwy naturiol.”
Wrth i leyau llysieuol ddod ag ystod o fanteision i ffrwythlondeb pridd, mae’n golygu bod llai o angen cemegau llym wrth reoli’r fferm. Ac yng Ngarnwen, ymddengys bod yr hyn sy’n dda i’r amgylchedd yn dda i’r fferm:
“Rydyn ni’n gweld bod y ffordd naturiol o ffermio yn fwy cynaliadwy i ni yma. Rydyn ni’n teimlo bod y defaid yn dod ymlaen yn well nag oedden nhw o’r blaen, ond mae’n bendant yn ffordd o leihau ein hôl troed carbon a lleihau’r defnydd o wrteithiau a chwistrellau a phlaladdwyr.”
Onid yw’n dda gwybod pan fyddwch chi’n prynu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, eich bod chi’n mwynhau cig sydd wedi’i dyfu’n naturiol ac yn cefnogi ffermydd a theuluoedd fel rhai Emily i redeg yn fwy cynaliadwy?