Aethon ni i sawl digwyddiad, gŵyl ac archfarchnad yn ystod yr haf, i arddangos y gorau o Gig Oen Cymru ac yn bwysicach oll, cyfarfod nifer ohonoch chi ar hyd y ffordd.
Yn sicr, un o’r uchafbwyntiau oedd ymweld â gŵyl The Good Life Experience ym Mhenarlâg, Sir y Fflint. Yn yr heulwen hyfryd cawson ni air gyda threfnydd yr ŵyl a’r cerddor enwog Cerys Matthews er mwyn trafod ei brwdfrydedd tuag at fwyd lleol, tymhorol a’r ryseitiau anhygoel y gellir eu coginio am bris rhesymol.
Gwyliwch ein fideo er mwyn dysgu mwy am sut y gwnaeth hi ryfeddu’r dorf gyda phryd adnabyddus iawn – cawl Cig Oen Cymru wedi ei goginio dros bwll tân – a rhannu rhai o’r straeon o’i llyfr coginio newydd sbon.