- Gwnewch y marinâd jerk trwy gymysgu 1 llwy fwrdd o’r olew, sesnin jerk, siwgr brown, garlleg, finegr, croen a sudd y leim a’r sesnin. Cymysgwch yn dda ac yna defnyddiwch y cymysgedd i orchuddio’r golwythion.
- Gadewch i orffwys am o leiaf awr.
- Cynheswch y popty i 200˚C / 180˚C ffan / Nwy 6.
- Rhowch y winwnsyn ar waelod dysgl bopty neu dun rhostio a rhowch y golwythion ar ei ben. Coginiwch am 20-25 munud. Gall y rhain hefyd gael eu ffrio mewn padell neu eu coginio ar y barbeciw.
- I goginio’r reis, cynheswch yr olew mewn sosban, ychwanegwch y winwnsyn a’i ffrio’n ysgafn am 5 munud i feddalu. Ychwanegwch y garlleg, y sesnin a chymysgu am 1 munud.
- Ychwanegwch y reis, llaeth cnau coco a digon o ddŵr i orchuddio’r reis o 2cm. Dewch ag ef i’r berw, rhowch gaead ar y sosban a’i fudferwi’n ysgafn nes bod y reis wedi coginio – tua 10 munud. Yn ystod yr ychydig funudau olaf, ychwanegwch y pys wedi’u rhewi a choginio nes bod y pys wedi coginio trwyddynt a’r hylif wedi’i amsugno.
- Gweinwch wedi’i ysgeintio â chroen leim.
Golwythion Cig Oen Cymru jerk gyda reis a phys
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 25 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 4 golwyth lwyn Cig Oen Cymru PGI
- 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n dalpiau
- 2 lwy fwrdd olew
- 1 llwy fwrdd sesnin jerk
- 1 llwy fwrdd siwgr brown golau
- 2 ewin garlleg, wedi’u malu
- 1 llwy fwrdd finegr gwin coch
- 1 leim, y croen a’r sudd
- Sesnin
Ac gyfer y reis a phys:
- 1 llwy fwrdd olew
- 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fân
- 2 ewin garlleg, wedi’u malu
- 400g reis grawn hir
- 1 tun llaeth cnau coco
- 150g pys wedi’u rhewi
- Sesnin
- Croen 1 leim i addurno