
Cynhwysion
- 450g briwgig Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster
- 1 llwy fwrdd olew
- 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fân
- 2 ewin garlleg, wedi’i dorri’n fân
- 3cm darn sinsir ffres, wedi’i dorri’n fân
- 2 lwy fwrdd powdr cyrri mwyn
- 2 lwy fwrdd purée tomato
- 400ml stoc cig oen neu lysiau
- 400g tun tomatos wedi’u torri
- ½ llwy de siwgr
- 50g pys wedi’u rhewi
- Clwstwr o shibwns, wedi’u torri
- Iogwrt naturiol (dewisol)
25
Amser coginio
10
Amser paratoi
4
Yn gweini
- Cynheswch yr olew mewn padell ffrio, ychwanegwch y winwnsyn, y garlleg a'r sinsir a'u ffrio'n ysgafn am 5 munud.
- Ychwanegwch y briwgig a chynyddwch y gwres, a'i ffrio nes ei fod wedi brownio.
- Trowch y powdr cyrri i mewn a choginiwch am 2 funud.
- Ychwanegwch y purée tomato, stoc, tomatos tun a siwgr, cymysgwch yn dda a dewch â'r cyfan i’r berw cyn ei fudferwi am 15 munud.
- Ychwanegwch y pys a'u coginio am 4 munud arall.
- Gweinwch gyda reis neu fara croyw a rhowch iogwrt naturiol a'r shibwns ar ei ben.
