- I wneud y marinâd, cymysgwch y blawd corn a’r saws soi a chwisgio nes ei fod yn llyfn. Ychwanegwch y stoc cig eidion, siwgr brown ac olew. Yna ychwanegwch y pupur du at eich dant a chwisgio’n dda. Ychwanegwch y cig a’i adael i farinadu am o leiaf awr (yn hirach os yn bosibl).
- Gwnewch y chow mein. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio fawr neu wok, tynnwch y cig eidion allan o’r marinâd (gan gadw’r marinâd) a browniwch y cig eidion yn y wok, yna’i drosglwyddo i blât.
- Ychwanegwch y garlleg a’r sinsir i’r wok a’i dro-ffrio am funud. Ychwanegwch y brocoli a’i dro-ffrio am 2 funud dros wres uchel, yna ychwanegwch y moron, pupur coch a hanner y shibwns a’u troi am funud.
- Ychwanegwch yr egin ffa a’u troi am funud. Ychwanegwch y nwdls wedi’u coginio a gweddill y marinâd a’r cig eidion. Cymysgwch yn dda am ychydig funudau nes bod y nwdls yn chwilboeth. Rhowch y shibwns sy’n weddill ar ben y cyfan.
Chow mein Cig Eidion Cymru a llysiau Ken Owens
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 10 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 450g stecen ffolen Cig Eidion Cymru PGI, wedi’i thorri’n sleisys tenau iawn
Ar gyfer y marinâd:
- 1 llwy fwrdd blawd corn
- 3 llwy fwrdd saws soi â llai o halen
- 4 llwy fwrdd stoc cig eidion oer
- 1 llwy de siwgr brown tywyll
- 1 llwy de olew sesame neu olew llysiau
- ½ llwy de pupur du
Ar gyfer y chow mein:
- 1 llwy fwrdd olew llysiau
- 3 ewin garlleg, wedi’u malu neu eu gratio
- Darn 4cm sinsir ffres, wedi’i ratio
- 2 foronen, wedi’u plicio a’u sleisio’n denau
- 150g brocoli ifanc neu flodigion brocoli
- 1 pupur coch, wedi’i sleisio’n denau
- 100g egin ffa
- 8 shibwnsyn, wedi’u plicio a’u torri
- Pecyn 400g nwdls (coginiwch yn ôl y cyfarwyddiadau a’u troi a throsi gydag 1 llwy de olew sesame) (bydd nwdls cyflawn yn rhoi mwy o ffeibr)