- Yn gyntaf, paratowch y selsig. Mewn powlen, cymysgwch y ddau gig gyda’i gilydd. Ychwanegwch yr halen, paprica, hadau ffenigl a garlleg. Cymysgwch yn dda â llaw a’i adael yn yr oergell i farinadu dros nos.
- Llenwch y casys selsig gyda’r cymysgedd a’u clymu gyda chortyn cigydd bob 10cm. Os nad oes gennych beiriant gwneud selsig, gosodwch ddarn hir o haenen lynu ar arwyneb gwaith neu fwrdd. Rhowch y cymysgedd selsig ar ymyl hir yr haenen lynu sydd agosaf atoch chi, gan ffurfio siâp selsig. Rholiwch y haenen lynu o amgylch y selsig, yn eithaf cadarn, ac yna rholiwch y selsig ar hyd y bwrdd i ffwrdd oddi wrthych nes eich bod wedi defnyddio’r holl haenen lynu. Parhewch i rolio i’w ddiogelu, ac yna clymwch gwlwm yn yr haenen lynu ar bob pen i’r selsig. Pan fyddwch chi’n barod i ddefnyddio’r selsigen, gwynnwch hi (blanch) am ychydig funudau, yna tynnwch yr haenen lynu ac mae’n barod i’w ffrio (yng ngham 5).
- Draeniwch y ffa cannellini a’u trosglwyddo i botyn. Ychwanegwch y llysiau a’u gorchuddio â dŵr. Dewch â’r cyfan i’r berw yna gostyngwch y gwres a gadewch iddo fudferwi nes ei fod yn feddal ond yn dal yn gadarn. Ychwanegwch halen a gadewch iddo oeri yn nŵr y ffa.
- I wneud y polenta, dewch â’r dŵr a’r llaeth i’r berw mewn sosban, gan ychwanegu ambell binsiad o halen, menyn ac olew olewydd ychwanegol. Pan fydd yn berwi, trowch y blawd polenta i mewn. Coginiwch am 8 munud, tynnwch oddi ar y gwres, a’i orffen gyda Grana Padano a menyn os oes angen.
- Yn y cyfamser, cynheswch badell gydag 1 llwy fwrdd o olew olewydd a ffriwch y selsig dros wres canolig. Pan fyddant wedi’u serio’n dda, tynnwch y selsig o’r badell.
- Gan ddefnyddio’r un badell, ychwanegwch y garlleg, y rhosmari, y teim a’r ffa wedi’u draenio.
- Coginiwch am ychydig funudau ac yna dychwelwch y selsig i’r badell i orffen eu coginio’n drylwyr, tua 5 munud.
- I weini, rhowch y polenta ar blât, rhowch y selsig ar ei ben, arllwyswch y gymysgedd ffa drosto a’i addurno â phersli dail gwastad.
Selsig Cig Oen Cymru gyda polenta a ffa cannellini Tysganaidd gan Francesco Mazzei
- Amser paratoi 30 mun
- Amser coginio 25 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
Ar gyfer y selsig:
- 1kg briwgig Cig Oen Cymru PGI
- 100g briwgig porc
- 27g halen mân
- 25g paprica melys
- 5g hadau ffenigl, wedi’u malu’n ysgafn
- 1 ewin garlleg, wedi’i dorri’n fân
- Casys selsig
Ar gyfer y polenta:
- 100g polenta Valsugana
- 250ml llaeth
- 250ml dŵr neu stoc llysiau
- 50g Grana Padano Riserva
- 20g menyn
- 25ml olew olewydd ifanc iawn
- Pinsiad o halen môr
Ar gyfer y ffa:
- 200g ffa cannellini sych (wedi’u socian mewn dŵr oer dros nos)
- 1 ffon seleri
- 1 shibwnsyn
- 1 foronen fach
Ar gyfer wedyn:
- 3 ewin garlleg, wedi’u sleisio’n denau
- 3 sbrigyn o rosmari, wedi’u torri (dim ond y dail)
- Ambell sbrigyn o deim, wedi’u torri
I addurno:
- Ambell sbrigyn o bersli dail gwastad